Newyddion S4C

Tân yn achosi difrod i dafarn hanesyddol yn Sir Gâr

18/09/2022
Tân Talacharn

Mae tân wedi achosi difrod i dafarn hanesyddol Brown’s yn Nhalacharn.

Dywedodd y dafarn fod y tân wedi cychwyn yn y gegin.

Mae Brown’s yn adnabyddus fel hoff dafarn y bardd Dylan Thomas pan oedd yn byw yn y dref.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y dafarn: “Yn anffodus fe gawsom dân eithaf difrifol yn y gegin a thu allan i’r adeilad.  Yn ffodus ni chafodd unrhyw un ei anafu.  Rydym fel tîm wedi ein llorio ond ar ôl yr ychydig flynyddoedd rydym i gyd wedi eu cael, fe fyddwn yn dod dros y rhwystr yma eto.  Rydym yn y broses o gysylltu gyda phawb sydd wedi bwcio gyda ni."

Cafodd Brown’s ei nodi yn y Times ddydd Sadwrn fel un o dafarndai mwyaf clud y DU.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.