Siapan yn paratoi am gorwynt enfawr

Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn Siapan yn cael eu cynghori i adael eu tai wrth i gorwynt enfawr ddynesu.
Mae disgwyl i gorwynt Nanmadol gyrraedd ynys ddeheuol Kyushu gyda gwyntoedd yn cyrraedd dros 155 milltir yr awr.
Mae disgwyl i law trwm a stormydd effeithio ar yr arfordir yn sylweddol.
Mae disgwyl difrod sylweddol i eiddo ac mae miloedd o bobl eisoes wedi gadael eu tai i geisio lloches.
Darllenwch fwy yma.