Ysgol yn Wrecsam ar gau wrth i athrawon fynd ar streic
Bydd ysgol uwchradd yn Wrecsam ar gau ddydd Mawrth wrth i athrawon fynd ar streic dros ddiswyddiadau arfaethedig a phryderon dros gyflwr ariannol yr ysgol.
Bydd aelodau o’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) a NASUWT - Undeb Cenedlaethol yr Athrawon - yn Ysgol Uwchradd Darland yn gweithredu’n ddiwydiannol.
Maen nhw hefyd i fod i gerdded allan yr wythnos nesaf ddydd Mawrth, 30 Mehefin, a dydd Mercher, 1 Gorffennaf.
Darland sydd â’r diffyg mwyaf yng nghyllideb holl ysgolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar ôl gorwario £1,072,271 y llynedd. Yn 2024/25 roedd gan yr ysgol ddiffyg o £701,943.
Cafodd llythyrau eu hanfon at rieni gan yr ysgol ddydd Gwener yn nodi’r dyddiau streic arfaethedig ac yn esbonio'r sefyllfa.
“Ar ôl i’r ysgol gynnal asesiad risg, mae’r penderfyniad wedi ei wneud bod yn rhaid i’r ysgol fod ar gau i bob disgybl ar ddyddiau’r streic”.
Dywedodd Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol NASUWT Cymru bod “rheolaeth ariannol wael wedi arwain at sefyllfa lle mae pum athro llawn amser yn wynebu colli eu swyddi o bosib”.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Addysg a Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar ei fod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol.
“Ein blaenoriaeth o hyd yw addysg, lles a diogelwch disgyblion,” meddai.
Ychwanegodd: “Fy nymuniad nawr yw gweld y streic sydd wedi ei threfnu ar gyfer yr wythnos nesaf yn cael ei chanslo.
“Pe bai hynny’n digwydd, hoffwn ddiolch i’r staff am gydnabod bod eu hangen arnom yn yr ysgol yn cyflwyno gwersi, tra bod eu cynrychiolwyr undeb yn cynnal trafodaethau gyda’r awdurdod lleol, y llywodraethwyr ac uwch arweinwyr yr ysgol.”