'Mor bwysig cario ei enw': Chwe dyn o Wynedd yn gwneud her er cof am eu ffrind agos Mathew Hardy

'Mor bwysig cario ei enw': Chwe dyn o Wynedd yn gwneud her er cof am eu ffrind agos Mathew Hardy

Fe fydd chwe dyn o Wynedd yn gwneud her ym mis Awst er cof am ffrind agos a fu farw mewn gwrthdrawiad ym mis Rhagfyr y llynedd.

Bu farw Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli, mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog ar 20 Rhagfyr.

Mae John Pugh, Arwel Thomas, Deio Brunelli, Steve Jones, Rhys Roberts a Dafydd Anwyl wedi sefydlu cronfa er cof am Mathew, ac ym mis Awst, fe fydd y chwech yn gwneud her y Tri Chopa.

Fe fydd y criw yn cerdded mynyddoedd Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa, gan feicio rhwng y tri mynydd dros gyfnod o wythnos — taith o dros 500 milltir.

Mae'r criw yn codi arian at sawl elusen wahanol, gan gynnwys un sydd yn cefnogi pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi colli rhywun mewn gwrthdrawiad ffordd, ac un sy’n cefnogi dynion sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Arwel Thomas: "Ma' sefydlu'r gronfa wedi bod yn andros o help i ni i ddod at ein gilydd ar ôl colli ffrind mor annwyl. 
 
"Dwi'n teimlo'n prowd cael gwisgo'r dillad ma efo enw Mathew arna fo, ma'n golygu gymaint i fi, dwi wastad yn chwilio am y jumper i gael gwisgo hi. Ma'n neud i chi deimlo'n agos at ein gilydd, ata fo.
 
"I fi, dwi jyst yn teimlo bod o mor bwysig ag yn falch o gael cario enw M J Hardy."
Image
mathew hardy
Bu farw Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog ar 21 Rhagfyr y llynedd
Ychwanegodd Deio Brunelli: "O’dd o’n berson arbennig iawn i ni gyd fel criw o ffrindiau, ma’n bechod bod rhwybeth fel hyn wedi gorfod digwydd i ni orfod dod at ein gilydd i ddangos gymaint mae o’n feddwl i ni ‘lly, a faint o bwysig oedd o i’n bywydau ni."
 

"I'r chwech ohona ni, Mathew oedd y glud. ‘Dan ni’n trio neud hyn idda fo, yn ei enw fo, i’w deulu fo, partner fo, plentyn fo," meddai Steve Jones. 

Mae'n heriol i'r criw ddod at ei gilydd ar adegau yn sgil eu colled fawr yn ôl Deio Brunelli. 
 
"Dwi’m yn meddwl bod o’n hawdd i ni dal ddod at ein gilydd fel criw, ma’ ‘na adegau lle ‘dan ni’n dod at ein gilydd a ti’n sylwi bod o ddim yna," meddai. 
 
"Dwi’n meddwl bod yr adegau yna yn eithaf anodd ag eto, yn fan na ti’n gallu gweld gymaint oedd o yn olygu a gymaint oedd o’n gynnig i wahanol sefyllfa."
Image
Deio a Mathew
Mathew a Deio
Mae'r criw wedi bod yn ymarfer ers ychydig o wythnosau ar gyfer yr her, gan gynnwys beicio 100 milltir yn ogystal â cherdded i fyny mynyddoedd yn y gogledd. 
 
Yn ôl John Pugh, mae hyn wedi cynnig dihangfa o realiti'r sefyllfa. 
 
"Ma’ rhywun yn cael mynd ar y beics a ma’ rhywun yn cael jyst switch off, ddim yn meddwl am be oedd wedi digwydd," meddai. 
 
"Jyst am y cyfnod byr yna, o’dd rywun jyst yn cael bod ar y beic ag efo’i fêts yn beicio."
Image
rhys a mathew.jpg
Fe fydd y chwech yn gwneud yr her rhwng 9 a 15 Awst
Mae'r criw yn codi arian at elusen Brake, sydd yn cefnogi pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi colli rhywun mewn gwrthdrawiad ffordd, elusen StrongMen sy’n cefnogi dynion sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos ac elusennau i helpu teuluoedd lleol sy'n delio â cholled annisgwyl.
 
Dywedodd Steve Jones: "Hefo’r elusen StrongMen, ma’n rwbath reit bwysig i fi in particular achos dwi ‘di stryglo ers i Mathew fynd i ddeud y gwir i agor i fyny, i siarad.
 
"I ddeud y gwir, dwi ‘di siarad dipyn bach efo few o’r bois yma amdana fo, a dwi’n gwbod bo’ nhw i gyd yn stryglo."
 
"Dydi pres ddim yn neud dim byd o ran y galar, ond mae o jyst yn rwbath i roi cefnogaeth pan ma' 'na gostau ychwanegol i bobl ddelio efo ar ôl colled, jyst bod o'n un peth yn llai iddyn nhw orfod poeni am yn ystod y cyfnod anodd yna," meddai Deio Brunelli. 
 
Ychwanegodd Arwel Thomas: "Fel hogia 35 oed, yn ein 30au, ma’ rywun jyst yn pwshio, dwi‘n meddwl bo’ ni yn yr oed i bwshio ein hunain i’r pen, ‘dach chi ddim yn meddwl bo’ chi angen galaru rili.
 
"Nes i erioed feddwl bo’ fi angen bod yn barod i rywbeth fel ‘ma, a wedyn ma’ hyn, ia, dwi’n meddwl fod o wedi dangos i ni jyst cadw efo’n gilydd a bod yn bositif ar ôl ffasiwn beth, ‘dan ni’n cael pleser trainio efo’n gilydd,  jyst dod at ein gilydd efo rwbath rili."
Image
Mathew a Dafydd
Mathew a Dafydd
Er ei bod hi'n bwysig siarad, mae hynny hefyd yn gallu bod yn heriol yn ôl Dafydd Anwyl. 
 
"Ma’n bwysig bo’ chi’n siarad, achos pan ma’ pobl yn gofyn os ti’n iawn, ti’n deud bo’ chdi’n iawn ond ti’m isio siarad efo’r person yna os ‘dach chi’n dalld be dwi’n feddwl," meddai. 
 
"Ma’n anodd agor i fyny, dal heb, dwi’m yn gwbod os ydi unrhyw un wedi neud, dwi heb ‘de, ma’n job."
 
Mae'r criw yn gobeithio y bydd eu hatgofion o Mathew yn mynd i fod o gymorth iddyn nhw ar adegau heriol o'r daith. 
 
"'Dan ni 'di trio creu egni i greu rwbath positif allan o rwbath mor drychinebus a sut fedrwn ni'n ddefnyddio hynna wedyn i helpu eraill," meddai Deio Brunelli.
 
"Dan ni'n gobeithio newn ni neud Mathew yn falch yn neud hwn.
 
"Mewn amseroedd caled ar y beic, ar y mynydd, ma' rhoi'ch hun yn y meddylfryd 'na o be sydd wedi digwydd yn mynd i wthio ni ymlaen i orffen y sialens a gwneud o er cof amdana fo."
 
Ychwanegodd Steve Jones: "Fyswn i'n licio meddwl neith meddwl am dan Hardy gael ni drwy adegau tywyll yn yr her."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.