'Carreg filltir': Cymeradwyo triniaeth newydd sy’n gallu oedi diabetes math 1 yng Nghymru

Dr Elizabeth Robertson, cyfarwyddwr ymchwil Diabetes UK
Dr Elizabeth Robertson, cyfarwyddwr ymchwil Diabetes UK

Bydd therapi cyntaf o’i fath sy’n gallu oedi dechrau diabetes math 1 am hyd at dair blynedd ar gael ar y GIG yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) eu bod wedi cymeradwyo teplizumab, gyda chleifion yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y driniaeth o fewn 60 diwrnod, a chleifion yn Lloegr o fewn 90 diwrnod.

Mae teplizumab, sydd hefyd yn cael ei alw’n Tzield, wedi’i gymeradwyo ar gyfer plant wyth oed a throsodd ac oedolion sydd â diabetes math 1 yn y camau cynnar cyn i symptomau ddechrau ymddangos.

Mae tua 200,000 o bobl yng Nghymru â diabetes math 1, cyflwr sy’n achosi i’r system imiwnedd ymosod ar gelloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn y pancreas.

Bydd y cwrs o teplizumab yn cael ei roi i gleifion cymwys unwaith yn unig, ac mae’n hyfforddi’r system imiwnedd i atal ymosodiad ar gelloedd y pancreas.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall y therapi oedi dechrau diabetes math 1, sy’n golygu y gall pobl fyw am flynyddoedd heb y "baich dyddiol" o reoli inswlin.

Mae NICE yn amcangyfrif y gallai tua 1,100 o bobl fod yn gymwys ar gyfer teplizumab yn y flwyddyn gyntaf, gan ostwng i tua 820 yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Dr Elizabeth Robertson, cyfarwyddwr ymchwil Diabetes UK: "Mae cymeradwyo teplizumab heddiw yn garreg filltir sy’n nodi dechrau cyfnod newydd o driniaeth diabetes math 1.

"Am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, rydym yn symud y tu hwnt i inswlin, gyda meddyginiaeth sy’n targedu achos sylfaenol y cyflwr.

"Mae hon yn foment anhygoel i’r gymuned diabetes math 1 ac yn gam tuag at ddyfodol lle gellir atal diabetes math 1 yn gyfan gwbl.

"Mae teplizumab yn cynnig i’r rhai yng nghamau cynnar diabetes math 1 flynyddoedd ychwanegol heb y baich dyddiol o reoli inswlin, yn ogystal ag amser gwerthfawr i baratoi.

"Mae canfod diabetes math 1 yn gynnar, cyn i symptomau ymddangos, yn allweddol i ddatgloi’r manteision hyn."

Pwy sy'n gymwys?

Yn y DU, mae dwy astudiaeth ar hyn o bryd yn edrych ar sgrinio ar gyfer diabetes math 1.

Mae adnabod y rhai sydd â’r cyflwr yn gynnar yn golygu y gallent wedyn fod yn gymwys ar gyfer teplizumab.

Mae astudiaeth Early Surveillance for Autoimmune Diabetes, sy'n cael ei ariannu gan Diabetes UK a Breakthrough T1D, yn sgrinio plant rhwng dwy a 17 oed.

Mae astudiaeth ar wahân, T1DRA, yn sgrinio oedolion rhwng 18 a 70 oed.

Dywedodd Dr Robertson: "Rydym eisiau dyfodol lle gall pawb sydd â diabetes math 1 cam cynnar elwa o imiwnotherapi.

"Drwy ein buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil o’r radd flaenaf, a phartneriaeth â’r GIG a’r diwydiant, rydym yn gweithio i wneud rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer diabetes math 1 yn realiti."

Mae teplizumab yn cael ei roi drwy drip i mewn i wythïen unwaith y dydd am 14 diwrnod yn olynol, gyda phob sesiwn yn para o leiaf 30 munud.

Mae’r dos yn dechrau’n isel ac yn cynyddu’n raddol dros y dyddiau cyntaf o driniaeth.

Mae’n gwrs triniaeth unwaith yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.