Ymchwilio i honiad o dreisio mewn rali Clwb Ffermwyr Ifanc

Heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos o dreisio honedig mewn rali Clwb Ffermwyr Ifanc ger Llanfair-ym-Muallt.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad rhyw honedig wedi digwydd ar Fferm Wernhalog ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn ardal toiledau portaloo y rali rhyw ben rhwng 23:00 a 23:45 y noson honno.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un allai fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu gyda nhw, gan ddyfynu'r cyfeirnod 26*472649.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.