Carcharu cyn-brif weithredwr yr SNP am dros bum mlynedd am ddwyn arian y blaid
Mae cyn-brif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, wedi cael ei garcharu yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin am bum mlynedd a thri mis ar ôl iddo gyfaddef dwyn mwy na £400,000 oddi wrth y blaid.
Fe wnaeth Murrell gyfaddef y cyhuddiadau o embeslu ('embezzlement') yr arian pan ymddangosodd yn y llys fis diwethaf.
Roedd wedi dwyn cyfanswm o £400,310.65 dros gyfnod o 12 mlynedd rhwng Awst 2010 a Hydref 2022.
Dywedodd y Barnwr Arglwydd Young wrth Murrell ei fod wedi cyflawni “nifer fawr o weithredoedd twyllodrus" tra'r oedd yn brif swyddog yr SNP.
Dywedodd fod y troseddu wedi cynyddu o ran amlder a maint dros amser.
Ychwanegodd: “Roeddech chi’n methu â rhoi’r gorau i’r troseddu hwn, a dim ond canfod y drosedd a’i daeth i ben.”
Cwynion
Daeth troseddau Murrell i’r amlwg ar ôl i’r heddlu ddechrau derbyn cwynion am gamreolaeth bosib o gyllid yr SNP ym mis Mawrth 2021.
Arweiniodd hynny at ymchwiliad, ac yn ystod yr ymchwiliad hwnnw fe ddaeth yr heddlu o hyd i dystiolaeth ei fod wedi dwyn yr arian.
Cafodd cyn-bennaeth y blaid ei arestio gyntaf ym mis Ebrill 2023 fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP, ac fe gafodd ei gyhuddo ym mis Ebrill 2024.
Roedd y cyhuddiad yn cynnwys honiadau bod Murrell wedi defnyddio arian y blaid yn 2020 i brynu cartref modur gwerth £124,550 at ei ddefnydd personol ei hun.
Roedd yr eitemau eraill a brynodd gyda’r arian yn cynnwys llyfr o areithiau ei wraig, gêm gyfrifiadur Grand Theft Auto V, ac wyth ymbarél werth £1,990.50.
Mae’n parhau yn ŵr i gyn-Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ond mae’r ddau wedi gwahanu.
Ymddiswyddo
Hyd nes iddo ymddiswyddo yn 2023 yn ystod y ras arweinyddiaeth i olynu Ms Sturgeon, roedd Murrell wedi bod yn brif weithredwr yr SNP am fwy nag 20 mlynedd.
Roedden nhw gynt yn un o’r cyplau mwyaf pwerus yng ngwleidyddiaeth y DU am flynyddoedd lawer.
Fe wnaeth Ms Sturgeon wasanaethu am fwy nag wyth mlynedd fel prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, tra roedd Mr Murrell yn brif weithredwr y blaid.
Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddodd Ms Sturgeon ei bod hi a Murrell wedi “penderfynu dod â’u priodas i ben”.
Cafodd Ms Sturgeon ei harestio a’i holi fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP, ond fe gadarnhaodd Heddlu’r Alban na fyddai’n wynebu unrhyw gamau pellach.
Dywedodd cyn arweinydd yr SNP ei bod wedi cael ei “chlirio’n llwyr” ar ôl “ymchwiliad dwy flynedd o hyd, trylwyr iawn gan yr heddlu”.