Reform yn ceisio 'bwlio'r Llywydd', meddai cyn-Lywydd y Senedd

Rosemary Butler - Reform

Mae Reform yn ceisio "bwlio'r Llywydd", yn ôl cyn-Lywydd y Senedd, y Fonesig Rosemary Butler.

Daw sylwadau'r Fonesig Butler wrth i foicot Reform, sef y brif wrthblaid yn y Senedd, barhau am ail wythnos, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un "ddigynsail".

Dechreuodd y boicot ar ôl i Lywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, benderfynu na fyddai'n galw aelod Reform, Joe Martin, i siarad yn y Siambr nes iddo ymddiheuro am sylwadau a ddisgrifiwyd fel rhai "diangen o bryfoclyd ac yn fwriadol sarhaus".

Mae Reform wedi amddiffyn ei phenderfyniad, gan ddweud ei bod yn "bryder mawr gweld cyn lleied o ffigurau blaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru sy'n cydnabod pwysigrwydd rhyddid i lefaru".

Y Llywydd sy'n gyfrifol am gynnal trefn yn y Senedd a dehongli ei rheolau, a disgwylir i'r aelodau gydymffurfio â'i benderfyniadau.

"Fy mhryder i yw eu bod yn ceisio bwlio'r Llywydd," meddai'r Fonesig Butler wrth raglen Politics Wales ar y BBC, a ddarlledwyd ddydd Sul.

"Dydy'r Llywydd ddim yn gwneud penderfyniadau yn ysgafn, ac nid ar ei ben ei hun y mae'n eu gwneud.

"Mae'n ymgynghori â'i swyddogion ac â chyfreithwyr. Mae'n ymgynghori â Dirprwy Lywydd y Senedd, cyn cyflwyno ei ddehongliad.

"Mae'n debyg i dîm pêl-droed sy'n chwarae gêm – dydyn nhw ddim yn cytuno â'r dyfarnwr.

"Felly, maen nhw'n codi'r bêl ac yn cerdded oddi ar y cae, fel na all neb chwarae.

"Dyna'r sefyllfa rydyn ni ynddi ar hyn o bryd, ac nid wyf yn gweld yn glir sut y bydd yn cael ei datrys."

Trafodaethau adeiladol

Mae 33 aelod Reform yn parhau i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau, pleidleisio a chyflawni gwaith yn eu hetholaethau.

Ond maen nhw'n osgoi'r brif Siambr, sy'n golygu nad ydyn nhw'n cymryd rhan mewn gwaith craffu na dadleuon yn ystod y cyfarfodydd llawn.

Yn ystod yr wythnos, fe gyflwynodd Reform gynnig ar gyfer dadl ar ryddid i lefaru, cyn ei dynnu'n ôl oriau'n ddiweddarach.

Fe gymerodd aelodau Reform ran mewn pleidlais ar ddiwedd y cyfarfod llawn ddydd Mercher.

Dywedodd ffynonellau ar y ddwy ochr eu bod wedi cael trafodaethau adeiladol.

Ychwanegodd y Fonesig Butler: "Mae hyn yn ddigynsail. Ni fu erioed sefyllfa fel hon.

"Yn y gorffennol, mae unigolion wedi defnyddio iaith amhriodol yn y Senedd, ac maen nhw wedi cael eu gwahardd fel unigolion.

"Ond pan fydd plaid gyfan yn penderfynu cerdded allan, ac yn parhau â hynny i'r wythnos ganlynol, mae hynny'n wirioneddol ddigynsail."

Dywedodd ei bod wedi delio ag aelodau oedd wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod ei chyfnod fel Llywydd, gan ddod i gytundeb â nhw ynghylch sut i fynegi eu barn heb ddefnyddio iaith sarhaus.

Pan ofynnwyd iddi sut y byddai'n ymdrin â'r sefyllfa bresennol, dywedodd: "Efallai y bydd fy ngwallt coch yn rhoi syniad i chi."

Gwaharddiad

Fe wnaeth y Llywydd gyhoeddi ei benderfyniad ynghylch Joe Martin ar 10 Tachwedd, ar ôl i'r aelod Reform honni bod pobl wyn yn cael eu disodli yn y DU.

Dywedodd Huw Irranca-Davies na fyddai Mr Martin yn cael ei alw i siarad nes iddo ymddiheuro a dangos ei fod yn deall ffiniau ymddygiad seneddol derbyniol.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Ni ddigwyddodd hyn erioed o'r blaen, oherwydd nid oedd gan y pleidiau eraill yn y Senedd y dewrder i gymryd safbwynt egwyddorol o blaid rhyddid i lefaru.

"Addawodd Reform y byddai'n tarfu ar y consensws cyfforddus ym Mae Caerdydd, a dyna'n union rydym yn ei wneud.

"Ni all fod unrhyw graffu na dadl wirioneddol heb ryddid i lefaru.

"Ers i Reform gymryd y safbwynt hwn, mae wedi bod yn destun pryder mawr gweld cyn lleied o ffigurau blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth Cymru sy'n cydnabod pwysigrwydd rhyddid i lefaru."

Roedd Mr Irranca-Davies wedi galw ar aelodau yr wythnos hon "i roi blaenoriaeth uchaf i fynychu a chymryd rhan yn y cyfarfod llawn, ac i gydnabod y cyfrifoldeb sydd arnom i gyd, ar y cyd, tuag at y bobl rydym yn eu cynrychioli".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.