Prifysgol Bangor yn derbyn £24 miliwn i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer y diwydiant niwclear
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn £24 miliwn i lansio rhaglen a fydd yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer y diwydiant niwclear.
Dywedodd y brifysgol yn y gogledd ei bod wedi derbyn Gwobr Ffocws Doethurol gan UK Research and Innovation (UKRI) i lansio rhaglen sgiliau niwclear.
Mae'n dweud y bydd y Rhaglen Cyflymu Datblygiad a Chymwysiadau Niwclear (PANDA) yn hyfforddi hyd at 100 o fyfyrwyr PhD.
Bydd £9 miliwn o'r rhaglen yn dod gan yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, y Weinyddiaeth Amddiffyn ac UKRI, gyda sefydliadau niwclear fel Rolls-Royce Submarines, Awdurdod Ynni Atomig y DU a TWI yn cyfrannu hefyd.
Bydd PANDA yn cael ei gyflwyno gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Labordy Niwclear Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a phrifysgolion Bryste, Birmingham, Caergrawnt, Derby, Manceinion a Choleg Imperial Llundain.
Y bwriad ydi "cefnogi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr sy'n barod i fodloni anghenion niwclear ac ynni glân y Deyrnas Unedig yn y dyfodol", yn ôl Prifysgol Bangor.
Dywedodd yr Athro Michael Rushton, cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac arweinydd PANDA, bod y rhaglen yn "gam arwyddocaol i Fangor, Gogledd Cymru a’r Deyrnas Unedig".
"Drwy PANDA, byddwn yn lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i ymchwilydd droi syniad da yn rhywbeth sy'n darparu budd gwirioneddol i gymdeithas.
"Byddwn yn hyfforddi hyd at 100 o raddedigion doethurol yn y dulliau mwyaf modern ac yn rhoi iddynt y sgiliau arweinyddiaeth i allu arloesi a chyflawni effaith uniongyrchol pan fyddant yn ymuno â rhaglenni niwclear amrywiol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos iawn."
'Ar flaen y gad'
Y tu hwnt i ymchwil technegol, mae PANDA yn rhoi pwyslais ar baratoi graddedigion doethurol ar gyfer y diwydiant.
Ynghyd â gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear, mae Prifysgol Bangor yn dweud y bydd myfyrwyr y rhaglen yn derbyn hyfforddiant mewn rheoli prosiectau, cyllidebu, ymwybyddiaeth reoleiddiol, cyfathrebu a sgiliau arweinyddiaeth ehangach.
Mae'r Athro Paul Spencer, dirprwy is-ganghellor dros ymchwil, yn dweud bod y rhaglen yn rhoi'r brifysgol "ar flaen y gad" o ran arloesi niwclear.
"Mae angen mawr am y math o sgiliau y byddwn yn eu darparu er mwyn cyflwyno technoleg arloesol, y cyntaf o'i bath, megis adweithyddion modiwlaidd bach Rolls Royce yn Wylfa," meddai.
"Mae'r gwaith hwn yn gosod Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran arloesi niwclear yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang ac yn tanlinellu rôl y Brifysgol wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o ynni glân."
Ychwanegodd: "Byddwn yn darparu goruchwyliaeth o’r radd flaenaf, yn hwyluso’r gwaith o gydweithio â sefydliadau niwclear blaenllaw ac yn darparu llwybrau effeithiol i yrfaoedd lefel uchel o fewn sector sy'n ganolog i ffyniant y Deyrnas Unedig yn y dyfodol."
Mae PANDA yn derbyn ceisiadau am gyfleoedd doethurol wedi eu hariannu'n llawn i ddechrau ym mis Hydref 2026.
Mae'r rhaglen yn cael ei lansio fisoedd yn unig ar ôl i Lywodraeth y DU gadarnhau y bydd gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd y bydd 3,050 o bobl yn gweithio ar y safle wrth adeiladu tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR), ac y bydd yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser hir-dymor.
Bydd pob un o’r adweithyddion yn cynhyrchu 470MW o ynni carbon isel - digon i bweru miliwn o gartrefi am 60 mlynedd, meddai'r llywodraeth.