Porthaethwy: Pryder am gynllun i adeiladu gorsaf betrol newydd ar hen safle capel
Mae trigolion ym Mhorthaethwy ym Môn wedi dweud y byddant yn brwydro yn erbyn cynigion i adeiladu gorsaf betrol ac uned fanwerthu yng nghanol y pentref.
Yn ôl trigolion, mae'r datblygiad yn "anaddas" ar gyfer y lleoliad, gan bryderu y bydd yn cael effaith negyddol ar fusnesau.
Mae Grŵp Llais Cymunedol Porthaethwy yn gwrthwynebu'r cynllun sy'n cael ei gynnig ar safle'r hen gapel, Capel Moreia.
Dywedodd yr ymgynghorwyr JMS Planning & Developments, sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd Lewis Forecourt Holdings Ltd, yn flaenorol fod y safle "yn galw am ddefnydd hyfyw ac addas".
Ychwanegodd yr ymgynghorwyr: "Byddai'r adeilad yn gallu darparu cyfleuster masnachol cyfoes, gan barchu tirwedd tref hanesyddol Porthaethwy ar yr un pryd."
Cafodd y capel ar Stryd Dale ei adeiladu ym 1884 ond fe ddechreuodd cyflwr yr adeilad i ddirywio wedi iddo gau ei ddrysau yng nghanol y 1990au.
Cafodd ei ddymchwel yn 2022 ar ôl mynd yn anniogel.
'Niwed parhaol'
Mae'r cais llawn i Gyngor Môn yn galw am ddymchwel y strwythur presennol ac ailddatblygu'r safle i ddarparu gorsaf betrol a siop gyfleustra.
Byddai tŷ pum ystafell wely hefyd yn cael ei ddymchwel fel rhan o'r cynnig.
Mae'r grŵp cymunedol yn dweud eu bod wedi trefnu "cyfarfod cyhoeddus a gafodd ei fynychu gan nifer" yn y dref ar 20 Medi.
Ychwanegodd y trefnwyr fod yna bellach grŵp bychan o drigolion yn hwyluso a chydlynu ymatebion i'r cais.
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp: "Dydyn ni ddim yn erbyn ail-ddatblygu'r safle mewn egwyddor.
"Nid yw'n apelio i'r llygad ar hyn o bryd ond yn sicr, beth bynnag sy’n cael ei adeiladu, dylai fod yn ased i Borthaethwy a’i chymuned.
"Pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai traffig yn cynyddu, gyda siopau a busnesau lleol yn cau a'r dref yn dioddef niwed parhaol."
Cafodd y manylion eu codi hefyd yng nghyfarfod cynllunio Cyngor Tref Porthaethwy nos Iau 1 Hydref.
