Pêl-droed: Roma i chwarae gemau cyfeillgar yng Nghymru

AS Roma

Mae cewri pêl-droed yr Eidal, Roma, yn gobeithio chwarae tair gêm gyfeillgar yng Nghymru dros yr haf.

Mae'r clwb wedi cadarnhau ar eu gwefan eu bod nhw'n ymarfer yng Nghymru am gyfnod o wyth diwrnod ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Fe fyddan nhw'n ymarfer ar yr un safle â CPD Caerdydd, sef Hensol ym Mro Morgannwg.

Bydd Roma yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf, ac yn gobeithio chwarae tair gêm gyfeillgar cyn teithio yn ôl i Rufain ar gyfer dechrau tymor Serie A.

Mae Casnewydd wrthi yn cwblhau cynlluniau i herio'r Eidalwyr ar gae Rodney Parade.

Fe allai'r ddau glwb chwarae yn erbyn ei gilydd ar 4 Awst cyn i dymor Adran Dau gychwyn ar 14 Awst.

Mae adroddiadau y bydd Roma hefyd yn wynebu Caerdydd yn ystod eu cyfnod yn y brifddinas.

Dyw Roma heb gadarnhau pwy fydd eu gwrthwynebwyr eto, ond fe allai timau cyfagos eraill fel Abertawe a Bristol City fod yn wrthwynebwyr posib.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.