O'r Arctic Numpties i Fleetwood Bac: Galw cynyddol am fandiau teyrnged wrth i brisiau cyngherddau godi

Dan Ickowitz-Seidler, perchennog Tramshed
Dan Ickowitz-Seidler, Tramshed

Mae galw cynyddol am fandiau teyrnged wrth i bobl droi at opsiynau rhatach, yn ôl perchennog lleoliad cerddoriaeth yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dan Ickowitz-Seidler, cyfarwyddwr Propaganda Venues, sy’n berchen ar Tramshed yn y brifddinas ynghyd â lleoliadau cerddoriaeth eraill yn Llundain a Leeds, fod y cwmni’n cynnal mwy o sioeau teyrnged mewn ymateb i "gynnydd gwirioneddol" yn y galw.

Ymhlith y bandiau sy’n perfformio mae Arctic Numpties, Oas-Is, Fleetwood Bac a Daft Funk.

"Mae pobl eisiau noson allan fforddiadwy lle gallant weld band o safon, clywed caneuon maen nhw’n eu caru, a chael noson wych gyda ffrindiau," meddai.

"Wrth i docynnau ar gyfer cyngherddau ddod yn ddrytach, mae sioeau teyrnged yn galluogi pobl i weld cerddoriaeth fyw yn rheolaidd, gyda thocynnau fel arfer yn costio rhwng £20 a £30."

Mae tua un o bob pump o oedolion y DU wedi mynd i sioe deyrnged yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl arolwg gan y Night Time Industries Association.

Dywedodd 30% o’r rhai a gafodd eu holi eu bod yn disgwyl mynd i fwy o ddigwyddiadau o’r math yn ystod y flwyddyn nesaf.

Y rheswm mwyaf cyffredin a gafodd ei nodi oedd bod gweld sioe deyrnged yn rhatach na gweld yr artist gwreiddiol.

Dywedodd mwy na dwy ran o dair hefyd fod gweld artistiaid mawr yn fyw wedi mynd yn rhy ddrud.

Cynnydd mewn prisiau

Mae prisiau tocynnau cyngherddau wedi dod dan y chwyddwydr yn dilyn teithiau artistiaid fel Harry Styles, Taylor Swift a Beyoncé yn y blynyddoedd diwethaf.

Y llynedd, ymrwymodd gwefan Ticketmaster i roi mwy o wybodaeth i gwsmeriaid am brisiau tocynnau wrth iddynt ymuno â chiw, ac i roi gwybod iddynt pan fydd seddi rhatach wedi gwerthu.

Daeth hynny ar ôl ymchwiliad gan warchodwr cystadleuaeth y DU i’r ffordd y cafodd tocynnau Oasis eu gwerthu gan Ticketmaster yn 2024.

Yn y cyfamser, mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn chwilio am ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd, wrth i arferion cymdeithasu pobl newid ers pandemig Covid ac wrth i gostau rhedeg lleoliadau gynyddu.

Image
Taylor Swift
Roedd tocynnau ar gyfer taith Eras Taylor Swift yn y DU rhwng £58 a £194

Mae bron i 29% o economi nos Prydain wedi diflannu ers mis Mawrth 2020 wrth i nifer y clybiau nos ostwng fwy na thraean, yn ôl data gan y Night Time Industries Association.

Dywedodd Mr Ickowitz-Seidler fod pobl yn aml yn gwario mwy wrth y bar pan fyddant mewn sioe deyrnged.

"Mae pobl yn tueddu i fod yn fwy parod i fynd i’r bar a cholli rhan o gân nag y byddent efallai wrth wylio’r artist gwreiddiol neu ddarganfod band sy’n dod i’r amlwg," meddai.

"Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan fod pobl sy’n prynu diodydd mewn lleoliadau annibynnol yn hanfodol i gadw’r drysau ar agor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.