Galwad i gysylltu â'r heddlu am droseddau treftadaeth wedi difrod i briordy yn y gorllewin
Cafodd miloedd o bunnoedd o waith ei "ddadwneud mewn oriau" yn ôl sefydliad gwarchod treftadaeth, wedi i safle a oedd newydd ei adnewyddu yn ne-orllewin Cymru gael ei ddifrodi.
A hithau'n hanner tymor, mae Cadw yn annog pobl i roi gwybod i'r heddlu am fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treftadaeth ar safleoedd hanesyddol Cymru, ar ôl i Briordy Hwlffordd yn Sir Benfro gael ei ddifrodi.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae seiri maen a chontractwyr Cadw wedi cynnal rhaglen helaeth o waith maen yn y priordy.
Yn ôl Cadw, cafodd y "gwaith cadwraeth medrus, gofalus hwn" ei ddinistrio mewn ychydig oriau.
Mae'r corff yn dweud bod yr effaith ariannol yn dal i gael ei chyfrif, ond roedd cost diweddar y gwaith - cyn y difrod - ychydig yn llai na £50,000.
Yn ôl Cadw, mae'r gwirfoddolwyr a'r crefftwyr sydd wedi rhoi eu hamser a'u sgiliau i'r prosiect hwn, gan gynnwys garddwr gwirfoddol hirdymor a'r seiri maen a wnaeth y gwaith, wedi digalonni wrth weld eu gwaith yn cael ei ddinistrio.
"Nid difrodi hen gerrig yn unig y mae troseddau treftadaeth - boed yn lladrad, fandaliaeth neu waith anawdurdodedig," meddai Cadw.
"Mae'n erydu hanes, yn digalonni'r gwirfoddolwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gwarchod safleoedd hanesyddol, ac yn dargyfeirio arian a allai fel arall fynd tuag at sicrhau fod treftadaeth yn cael ei fwynhau gan fwy o bobl, neu i brosiectau cadwraeth eraill."
Dywedodd Fleur Gordon, Pennaeth Eiddo Mewn Gofal Cadw: "Gyda chalon drom rydym wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol sylweddol a fandaliaeth ym Mhriordy Hwlffordd.
"I bob pwrpas, mae blwyddyn o waith yn y cloestrau wedi cael ei effeithio ac mae gwaith cadwraeth arbenigol wedi’i ddadwneud yn yr hyn sy’n ymddangos yn weithred fwriadus, yn hytrach na damwain ddiofal.
"Mae'n rhwystredig gweld fandaliaeth mor ddifeddwl. Mae Cadw yn gwario llawer o arian ac amser ac yn ymdrechu'n galed i ailadeiladu adeiladau hanesyddol arbennig, yn enwedig ar gyfer ein cenedlaethau nesaf a fydd yn ymweld â safleoedd yr hanner tymor hwn.
"Mae hon yn drosedd - byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweld achosion o'r fath yn digwydd i roi gwybod i'r heddlu."
