Storm Boelo: Dau ddyn wedi marw wedi i goed ddisgyn

Cwch pysgota

Mae dau berson wedi marw ar ôl i goed ddisgyn yn ystod Storm Boelo.

Mae'r storm wedi achosi llifogydd, toriadau trydan a hyrddiau gwynt o hyd at 84mya.

Bu farw dyn 60 oed ar ôl i goeden ddisgyn arno ar ffordd fechan yn Dumfries and Galloway yn yr Alban ychydig ar ôl 10:30 fore Sul.

Oriau'n ddiweddarach, cafodd dyn yn ei 20au ei ladd yng ngogledd Llundain ar ôl i goeden ddisgyn ar y car yr oedd yn ei yrru.

Yn ôl Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni, roedd mwy na 90,000 o gartrefi ledled Prydain heb drydan am 19:00 nos Sul.

Yng Nghymru, de'r wlad gafodd ei heffeithio fwyaf gan y toriadau trydan. Roedd mwy na 500 o gartrefi heb drydan yn Rhaeadr, Powys, fore Sul.

Rhybuddion llifogydd 

Roedd rhybudd melyn am wynt mewn grym mewn rhannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam tan 21:00 nos Sul.

Cafodd hyrddiau gwynt o 84mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri.

Mae naw rhybudd llifogydd oren, sy'n golygu 'byddwch yn barod', mewn grym ar hyd arfordir Cymru ar hyn o bryd.

Roedd rhybuddion coch am lifogydd hefyd mewn grym ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru fore Sul eu bod wedi cael eu galw i ddau achos o lifogydd ar hyd Afon Elái.

Arweiniodd hyn at gau Pont Elái ar Heol Orllewinol y Bontfaen yng Nghaerdydd, yn ogystal â Heol Llanfihangel i Gwrt Bryn y Castell i'r ddau gyfeiriad.

Roedd hyd at 55.2mm o law wedi disgyn ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn ystod y 24 awr hyd at fore Sul.

Cafodd 54.6mm o law hefyd ei gofnodi yng Nghapel Curig yng Nghonwy yn ystod yr un cyfnod.

Cafodd gwasanaethau rheilffordd eu heffeithio hefyd, gyda bysiau'n rhedeg yn lle trenau ar nifer o lwybrau oherwydd y tywydd garw.

Llun: Cwch pysgota yn harbwr Irvine yn Swydd Ayr.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.