Perchnogion hen safle Ferodo wedi’u cyhuddo o droseddau amgylcheddol yng Nghaernarfon
Perchnogion hen safle Ferodo wedi’u cyhuddo o droseddau amgylcheddol yng Nghaernarfon
Bydd y cwmni sy’n berchen ar safle hen ffatri Ferodo, lle mae cais cynllunio am ganolfan ddata, yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon y flwyddyn nesa.
Mae cwmni Bryn Coch Ltd a’u cyfarwyddwr, Peter O’Dowd, yn wynebu cyhuddiadau o droseddau amgylcheddol yn gysylltiedig â safle Ferodo.
Mae Peter O’Dowd hefyd yn gyfarwyddwr ar Gwelyfenai Ltd, sydd wedi cyflwyno’r cais cynllunio i ddatblygu Canolfan Ddata Menai.
Mae’r cais yn cael ei ystyried gan Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd.
Mae Bryn Coch a Peter O’Dowd yn wynebu dau gyhuddiad yr un; y cyntaf o dorri amodau trwydded amgylcheddol, a’r ail o gael gwared â gwastraff mewn modd sy’n debygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd pobl, sef trwy dân.
Maen nhw wedi pledio’n ddi-euog i’r holl gyhuddiadau, ac fe fyddan nhw'n ymddangos yn y llys ym mis Ebrill 2027.
'Materion cynllunio sy’n berthnasol i’r cais'
Mae gan Gyngor Gwynedd tan 7 Ionawr 2027 i wneud penderfyniad ar y cais cynllunio.
Wrth ofyn iddynt am yr achos llys sy’n gysylltiedig â’r safle a’r cyfarwyddwr, fe ddywedodd Cyngor Gwynedd bod eu hystyriaethau “wedi eu cyfyngu i’r materion cynllunio sydd yn berthnasol i’r cais.”
“Bydd y cais yn cael ei benderfynu yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, ac unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.”
“Ni fyddai’n briodol i Gyngor Gwynedd wneud sylw ar achosion troseddol byw.”
Mae’r cais cynllunio ar gyfer y ganolfan ddata gan Gwelyfenai Ltd yn un o naw cynllun yng Nghymru sydd dan ystyriaeth neu wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.
Byddai’r safle yn gant o aceri i gyd, a fyddai’n cynnwys hen ffatri Ferodo rhwng Caernarfon a’r Felinheli.
Mae’r cynllun wedi gofyn am 450 megawat o drydan o’r grid, ac fe allai ddefnyddio 700,000 litr o ddŵr y dydd yn ystod diwrnod cyffredin.
Yn ôl llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai, bydd y datblygiad yn “rhoi defnydd cynhyrchiol unwaith eto i hen safle diwydiannol Ferodo, sydd wedi bod yn segur ers amser maith.”
Maen nhw’n cydnabod bod y tirwedd a’r hanes lleol yn bwysig ac eisiau talu am y gwaith i adfer y tir sydd wedi'i effeithio gan asbestos a llygredd hanesyddol.
Maent yn dweud eu bod wedi gwneud asesiadau yn ymwneud â golau a sŵn y datblygiad.
“Ni fydd y datblygiad yn tynnu dŵr o Afon Menai. Yr unig ddŵr a fydd yn cael ei ollwng i’r Fenai fydd dŵr glaw glân wedi’i gasglu drwy system ddraenio’r safle.”
Maen nhw’n dweud y bydd y datblygiad yn creu “cyflogaeth sylweddol a pharhaol” a’u bod wedi “ymgynghori â’r gymuned, ymgysylltu â thrigolion, cynghorau lleol, cynrychiolwyr etholedig a darparwyr addysg.”
“Mae’r broses gynllunio yn parhau, a bydd cyfleoedd pellach i graffu ac ymgysylltu. Byddwn yn parhau i ateb cwestiynau, darparu gwybodaeth gywir a gwrando ar bryderon y gymuned.”
Maen nhw wedi cael cais am sylw yn ymwneud â’r cyhuddiadau troseddol, ond ni ddaeth ymateb.
Mae Y Byd ar Bedwar: Y Ganolfan Ddata Drws Nesa’ ar gael i’w wylio ar S4C, S4C Clic, Youtube S4C a BBC iPlayer.