'Neb uwchlaw’r gyfraith’ meddai’r Prif Weinidog wrth drafod honiadau yn erbyn Andrew
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad oes “neb uwchlaw’r gyfraith” wrth drafod yr honiadau yn erbyn Andrew Mountbatten-Windsor.
Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast, dywedodd Syr Keir Starmer bod ymchwilio i gysylltiadau rhwng Andrew a'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein “yn fater i’r heddlu”.
Ychwanegodd na fyddai’n “sefyll yn y ffordd” os oedd ASau San Steffan eisiau cynnal ymchwiliad i'r mater eu hunain.
Mae’r heddlu’n ystyried y cyhuddiadau yn erbyn Andrew, sydd wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, ar hyn o bryd.
Dywedodd Keir Starmer: "Rwy'n credu mai mater i'r heddlu yw hynny, byddan nhw’n cynnal eu hymchwiliadau eu hunain.
“Ond un o egwyddorion craidd ein system yw bod pawb yn gyfartal o dan y gyfraith a does neb uwchlaw'r gyfraith.
"Mae'n egwyddor bwysig iawn yn ein gwlad... ac mae'n rhaid iddi fod yr un mor berthnasol yn yr achos ag y byddai mewn unrhyw achos arall.”
Collodd Andrew ei deitl tywysog ym mis Tachwedd 2025 ar ôl honiadau ynglŷn â'i berthynas â Jeffrey Epstein.
Rhyddhaodd Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau filiynau o ffeiliau yn ymwneud â’r ymchwiliad fis diwethaf.
Roedd rhai ohonynt yn cynnwys e-byst oedd yn ymddangos fel pe bae'n nhw wedi dod gan Andrew, a lluniau ohono.
Mae Andrew bellach wedi gadael ei gartref yn Royal Lodge, Windsor a symud i ystad Sandringham yn Norfolk.
Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.
