Môn: Arestio dyn ar ôl i dacsi deithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55
Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar ôl i dacsi deithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55 ar Ynys Môn nos Lun.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi llwyddo i stopio’r cerbyd a bod yr A55 wedi’i chau dros dro.
Cyn i’r cerbyd fynd ar yr A55, cafodd person ei daro oddi ar feic ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi.
Cafodd y person anafiadau nad oedd yn peryglu eu bywyd ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.
Cafodd nifer o gerbydau wedi’u parcio eu difrodi hefyd.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n "cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi" yn sgil y gwrthdrawiad ar ffordd yr A66 yng ngogledd Lloegr ddydd Sadwrn, a laddodd saith o bobl, dau blismon yn eu plith.
Roedd car hwnnw wedi bod yn teithio i'r cyfeiriad anghywir ar hyd y ffordd bryd hynny.
'Eithriadol o ddychrynllyd'
Mewn datganiad ar gyfrwng cymdeithasol Facebook ddydd Mawrth, dywedodd perchennog cwmni tacsis Tacsi Zoe ar yr ynys bod un o gerbydau'r cwmni wedi cael ei ddwyn, ond nad oedd un o'i gyrwyr hi'n rhan o'r digwyddiad ar yr A55:
"Dwi wedi cael fy nghlymu i mewn i'r digwyddiad, ac fe fyddai llawer yn cytuno bod y sefyllfa gyfan wedi bod yn un eithriadol o ddychrynllyd a thrawmatig.
"Byddwn i'n hoff o ddweud yn glir NAD un o'm gyrwyr i sy'n gyfrifol am hyn.
"Diolch yn fawr i holl swyddogion yr heddlu am eu hymateb cyflym i'r sefyllfa." meddai.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y swyddogion a ddaeth ar draws y cerbyd ar Ynys Môn yn teithio ar ochr gywir y ffordd ac fe wnaethon nhw lwyddo i’w stopio’n ddiogel.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn parhau yn nalfa’r heddlu wrth i ymholiadau barhau.
Cafodd yr A55 ei chau dros dro tra fod swyddogion yn delio â’r digwyddiad ac yn sicrhau bod y ffordd yn ddiogel i’w hailagor.
“Gallwn gadarnhau na fu unrhyw wrthdrawiadau o ganlyniad i’r cerbyd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
“Mae ymholiadau ynghylch amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau ac nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.
“O ystyried y digwyddiadau diweddar yn ymwneud â Heddlu Cleveland, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi.
“Hoffem estyn ein cydymdeimlad at bawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau trasig hynny.”
Llun: Camera Traffig Cymru o'r A55 ger Caergybi.