Cyhoeddi ymchwiliad wrth i leithder a llwydni achosi ‘niwed difrifol’ i bobl mewn tai cymdeithasol

Michelle Morris

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dau ymchwiliad gan ddweud bod lleithder a llwydni yn achosi “niwed difrifol” i bobl mewn tai cymdeithasol.

Bydd yr ymchwiliadau yn edrych ar sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i’r problemau.
Bydd y rhain yn canolbwyntio hefyd ar sut mae’r problemau yn effeithio ar bobl hŷn, pobl ag anableddau, a theuluoedd â phlant.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ei bod yn lansio'r ymchwiliad ar sail gwaith achos, ei hymchwiliadau blaenorol ac ymatebion i ymgynghoriad.

Roedden nhw’n dangos “y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni sydd heb eu datrys achosi niwed difrifol, yn enwedig i denantiaid sy’n agored i niwed,” meddai.

“Er bod y sector yn newid, gan gynnwys y Safon Ansawdd Tai Cymru diweddaredig sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2026, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod problemau'n parhau.

“Bydd yr ymchwiliadau arfaethedig hyn yn nodi gwersi ac yn cefnogi gwelliant, tryloywder ac atebolrwydd.”

Mae'r penderfyniad i ymchwilio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Tachwedd 2025.

‘Difrifol’

Derbyniwyd ymatebion gan denantiaid, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cyngor ac eiriolaeth y trydydd sector.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y meini prawf statudol ar gyfer defnyddio pwerau ar ei liwt ei hun wedi’u bodloni, meddai.

Mae gwaith achos yr Ombwdsmon ac ymchwiliadau diweddar wedi nodi oedi ac ymatebion anghyson i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, yn aml yn cynnwys tenantiaid sy’n agored i niwed.

Yn 2024-25, roedd ychydig dros 19% o’r cwynion newydd a gafwyd yn ymwneud â thai cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni.

Mae tystiolaeth o'r ymgynghoriad yn dangos y gallai tenantiaid sy’n agored i niwed gael eu heffeithio fwy nag eraill, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, teuluoedd â phlant, y rhai ar incwm isel a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.

“Disgrifiodd yr ymatebwyr yr effaith ddifrifol y gall diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni ei chael ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth, a chytunasant y byddai bwrw ymlaen â'r ymchwiliadau hyn er budd y cyhoedd,” meddai llefarydd ar ran yr Ombwdsmon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.