Etholiad Israel: Pwy sy’n cystadlu a beth sydd yn y fantol?

Netanyahu mewn cynhadledd i'r wasg ym mis Awst 2025

Bydd pobl Israel yn pleidleisio ddydd Mawrth yn etholiad cyffredinol cyntaf y wlad ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023 a'r rhyfel yn Gaza a ddilynodd.

Mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd hi'n ras agos rhwng y pleidiau sy'n cefnogi'r Prif Weinidog presennol, Benjamin Netanyahu, a'r rhai sydd am ei ddisodli.

Ond mae mwy yn y fantol na phwy fydd yn arwain y llywodraeth nesaf.

Mae rhaniadau dwfn yn y wlad ynghylch diogelwch, crefydd, pwerau'r llysoedd a chyfeiriad Israel ar ôl tair blynedd o ryfela.

Dyma esboniad o'r hyn sydd yn y fantol.

Sut mae'r etholiad yn gweithio?

Mae 120 o seddi yn senedd Israel, y Knesset.

Mae pleidleiswyr yn dewis plaid neu restr o ymgeiswyr, ac mae'r seddi'n cael eu dosbarthu yn ôl cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid yn eu hennill.

Rhaid i blaid neu restr ennill o leiaf 3.25% o'r bleidlais er mwyn sicrhau seddi.

Y rhif allweddol yw 61 – dyna nifer y seddi sydd eu hangen i sicrhau mwyafrif.

Ond fel arfer, mae sawl plaid yn dod ynghyd i ffurfio llywodraeth glymblaid.

Dim ond 32 o seddi sydd gan y blaid fwyaf ar hyn o bryd, sef y blaid adain dde Likud.

Nid y blaid sy'n ennill y nifer fwyaf o seddi fydd o reidrwydd yn arwain y llywodraeth nesaf. Bydd llawer yn dibynnu ar ba blaid sy'n gallu sicrhau cefnogaeth pleidiau eraill.

Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Israel yn Arabiaid, ac mae gan ddinasyddion Arabaidd Israel yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad.

Nid oes gan Balestiniaid yn Gaza a'r Lan Orllewinol yr hawl honno, na'r rhan fwyaf o Balestiniaid Dwyrain Jerwsalem nad oes ganddynt ddinasyddiaeth Israelaidd.

Image
Adeilad y Knesset yn Jerusalem
Adeilad y Knesset yn Jerwsalem

Pwy yw Benjamin Netanyahu?

Netanyahu, arweinydd plaid Likud, yw'r prif weinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes Israel.

Mae'n arwain llywodraeth glymblaid sy'n cynnwys pleidiau'r dde eithaf a phleidiau crefyddol Iddewig Uniongred.

Ymhlith ei brif gynghreiriaid mae Itamar Ben-Gvir, arweinydd plaid Otzma Yehudit (Grym Iddewig) a'r Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol, a Bezalel Smotrich, y Gweinidog Cyllid ac arweinydd y Blaid Seioniaeth Grefyddol.

Prif ffocws ymgyrch Netanyahu yw diogelwch Israel.

Mae'n dadlau bod ymgyrchoedd milwrol Israel yn Gaza, Libanus ac Iran wedi lleihau'r bygythiadau i'r wlad, a bod angen iddo aros mewn grym er mwyn cwblhau'r gwaith.

Ond mae'n wynebu cwestiynau ynghylch y methiannau diogelwch cyn ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023, yn ogystal ag achos llys yn ei erbyn ar gyhuddiadau o lygredd.

Image
Itamar Ben-Gvir
Itamar Ben-Gvir, un o brif gynghreiriaid Benjamin Netanyahu

Pwy sy'n ei herio?

Ni fyddai disodli Netanyahu o reidrwydd yn golygu cael llywodraeth adain chwith yn ei le.

Nid un brif wrthblaid sy'n ei herio. Mae nifer o bleidiau sydd â safbwyntiau gwleidyddol gwahanol yn rhannu'r nod o ddisodli Netanyahu.

Un o brif wynebau'r ymgyrch yw Gadi Eisenkot, cyn-bennaeth lluoedd arfog Israel ac arweinydd plaid ganolbleidiol Yashar, sy'n golygu 'didwyll' neu 'gonest'.

Mae ei blaid wedi bod ar y blaen i Likud mewn rhai arolygon barn diweddar.

Cafodd ei fab ei ladd yn ystod y rhyfel yn Gaza.

Ymhlith y prif bleidiau eraill sy'n gwrthwynebu Netanyahu mae:

  • Cynghrair 'Together' rhwng y cyn-Brif Weinidog Naftali Bennett a phlaid Yesh Atid (Mae Dyfodol), dan arweiniad Yair Lapid, arweinydd yr wrthblaid yn y Knesset.
  • HaDemokratim (Y Democratiaid), plaid adain chwith dan arweiniad y cyn-gadfridog Yair Golan.
  • Yisrael Beiteinu (Israel yw Ein Cartref), plaid adain dde dan arweiniad y cyn-Weinidog Cyllid Avigdor Lieberman.

Yn ôl yr arolygon barn diweddaraf, nid oedd yr un o'r ddau floc ar y trywydd iawn i sicrhau mwyafrif.

Mae hynny'n awgrymu y gallai trafodaethau anodd i ffurfio llywodraeth ddilyn yr etholiad.

Image
Gadi Eizenkot
Ai Gadi Eizenkot fydd Prif Weinidog newydd Israel?

Beth yw'r prif faterion dan sylw?

Ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref

Cafodd bron i 1,200 o bobl eu lladd a 251 eu cymryd yn wystlon gan ymosodwyr dan arweiniad Hamas ar 7 Hydref 2023.

Mae Eisenkot ac arweinwyr eraill yr wrthblaid wedi addo sefydlu comisiwn ymchwilio gwladol i ganfod sut y digwyddodd y methiannau diogelwch a arweiniodd at yr ymosodiadau.

Mae Netanyahu wedi gwrthwynebu sefydlu comisiwn o'r fath.

Gwasanaeth milwrol

Mae anfodlonrwydd ynghylch yr eithriadau rhag gwasanaeth milwrol i ddynion Iddewig tra-Uniongred, tra bod eraill yn gorfod gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Yr economi a gwasanaethau cyhoeddus

Ar ôl blynyddoedd o ryfela, mae pleidleiswyr hefyd yn poeni am sefydlogrwydd yr economi, addysg a gwasanaethau iechyd.

Cysylltiadau rhyngwladol

Mae Israel yn wynebu beirniadaeth gynyddol yn rhyngwladol dros ei hymgyrchoedd milwrol a chartrefi mewn rhannau o’r Lan Orllewinol sydd wedi eu meddiannu gan Israel. 

Image
Gaza
Mae dros dair blynedd wedi mynd heibio ers dechrau cyrchoedd Israel yn Gaza

Beth fydd effaith yr etholiad ar y Palestiniaid?

Er bod gwahaniaethau mawr rhwng Netanyahu a'i wrthwynebwyr ar rai materion domestig, mae'r bwlch rhyngddynt yn llai ar rai o'r materion sy'n effeithio ar y Palestiniaid.

Nid oes yr un o'r prif ymgeiswyr wedi ymrwymo'n agored i gefnogi sefydlu gwladwriaeth Balesteinaidd gwbl annibynnol.

Mae Eisenkot wedi addo dod â rheolaeth Hamas dros Gaza i ben o fewn 18 mis, naill ai drwy gynllun heddwch dan arweiniad yr Unol Daleithiau neu drwy weithredu milwrol.

Mae prif arweinwyr yr wrthblaid wedi cefnogi rhyw fath o setliad Israelaidd yn y Lan Orllewinol. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl y bleidlais?

Os bydd canlyniad clir, gallai'r pleidiau ddod i gytundeb ynghylch ffurfio llywodraeth glymblaid.

Os na fydd cytundeb, gallai llywodraeth leiafrifol geisio sicrhau cefnogaeth pleidiau nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth.

Os bydd y trafodaethau'n methu, mae'n bosib y bydd angen cynnal etholiad arall.

Gallai methiant i ffurfio llywodraeth newydd yn syth hefyd olygu y bydd Netanyahu yn parhau fel prif weinidog dros dro.

Felly, efallai na fydd canlyniad yr etholiad ar ei ben ei hun yn penderfynu pwy fydd yn arwain Israel yn y tymor hir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.