'Dwi'n gwadu pob dim': Dyn yn rhoi tystiolaeth mewn achos treisio honedig yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

Emlyn Jones yn cyrraedd y llys
Emlyn Jones

Ar drydydd diwrnod achos dyn o Ddyffryn Conwy sydd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn pabell yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, clywodd y rheithgor dystiolaeth ganddo'n gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Wrth roi tystiolaeth yn Gymraeg yn Llys y Goron Caernarfon, gofynnodd bargyfreithwraig Emlyn Jones iddo os oedd yn euog o'r hyn yr oedd dynes wedi ei gyhuddo o'i wneud?

"Dwi'n gwadu pob dim," meddai. 

"Yr unig beth dwi'n euog ohono ydy twyllo fy nghariad" (ar y pryd).

"Dwi'n teimlo'n ddrwg am fy hen gariad yn fwy na dim a bod yn onest hefo chi," ychwanegodd.

Roedd yr achwynydd yn "ddigon awyddus" i gael rhyw gydag o yn oriau mân fore dydd Sul 7 Awst, meddai.

Mae Mr Jones, 27 oed, yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef treisio, tagu bwriadol, ymosod trwy dreiddio (‘assault by penetration’) ac un achos o ymosod yn rhywiol.

Yn gwisgo crys gwyn, tei a throwsus glas tywyll ac esgidiau brown, dywedodd wrth y llys mai "codi siediau, gwaith concrit a chneifio yn ystod yr haf" oedd ei waith.

Cyngerdd Bwncath

Dywedodd ei fod wedi cyrraedd yr Eisteddfod ar y dydd Sul, 6 Awst, gyda dau o'i ffrindiau a'r bwriad oedd mwynhau cyngerdd Bwncath cyn cysgu mewn fan 'pick-up' a dychwelyd adref y diwrnod canlynol.

Pan ofynnodd ei fargyfreithwraig, Caroline Rees KC, wrtho os oedd yr alcohol yr oedd wedi ei yfed ar y noson wedi effeithio yn ormodol arno, gwrthododd yr argrym gan ddweud nad oedd yn teimlo'n sâl a'i fod yn gallu siarad yn eglur.

Dywedodd ei fod wedi gweld yr achwynydd yn ystod cyngerdd Bwncath: "Dwi'n siŵr ein bod wedi dweud 'helo' ond dim mwy na hynny."

Esboniodd ei fod wedi ffraeo gyda'i gariad ar y noson ac nad oedd y ddau gyda'i gilydd am gyfnod hir. Ceisiodd ei ffonio ond nid oedd ateb ar ei ffôn.

Ychwanegodd eu bod yn ffraeo o bryd i'w gilydd "ond dim ond ar ôl cwrw" - ond bod eu perthynas ar y cyfan yn un dda.

Trefniadau cysgu

Pan ofynnwyd iddo beth oedd y trefniadau cysgu'r noson honno, dywedodd mai'r bwriad oedd i aros gyda'i gariad cyn i'r ddau ffraeo.

Ond dywedodd ei fod wedi gweld yr achwynydd gyda dyn arall ar ddiwedd y noson - a bod yr achwynydd wedi cynnig eu bod yn aros yn yr un garafán.

"Doedd 'na ddim trefniadau (cysgu) really. Dwi ond yn cofio i ni'n tri fynd i mewn i'r tent bach ma."

Dywedodd nad oedd yn cofio gweld yr achwynydd yn newid ei dillad cyn iddynt fynd i mewn i'r babell.

"Oedd 'na unrhyw siarad am pwy oedd yn mynd i gysgu lle?" gofynnodd ei fargyfreithwraig iddo.

Dywedodd nad oedd trafodaeth wedi bod ac nid oedd wedi awgrymu fod yr achwynydd yn cysgu yn y babell rhwng y ddau ddyn.

"Ar ôl rhyw 10 munud fe wnaeth (enw'r achwynydd) droi drosodd i wynebu fi a ddaru'r ddau ohono ni ddechrau cusanu a touchio ein gilydd," meddai.

Ychwanegodd fod y ddynes yn fodlon i hyn ddigwydd, gyda'r ddau yn gafael yng nghanol ei gilydd.

"Pryd ddechreuodd y cusanu, oedd hi ar ddihûn?" gofynnodd Caroline Rees KC.

"Oedd bendant," meddai.

Esboniodd fod y cusanu wedi para 10-15 eilaid cyn i'r ail ddyn yn y babell ddechrau gweiddi ar y ddau ohonynt.

"Be **** ti'n wneud? Mae gen ti gariad," oedd ei eiriau meddai Mr Jones.

Dywedodd fod y ddynes yn y babell wedi ceisio ei ddarbwyllo i aros "ond roedd wedi colli ei ben a mi aeth allan".

Aeth yr achwynydd ar ei ôl cyn dychwelyd ato i'r babell yn y man.

Image
Canolfan Gyfiawnder Caernarfon
Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

Wedi iddi ddychwelyd, dywedodd Mr Jones na chafodd dim ei drafod am yr hyn oedd wedi digwydd rhwng y ddau.

Yn fuan wedyn dechreuodd y ddau gusanu eto, meddai, a hynny "mewn eiliadau".

Dywedodd ei fod yn credu fod y ddynes yn cydsynio i'r hyn oedd yn digwydd o'r ffordd yr oedd hi'n ymateb.

Ychwanegodd nad oedd y ddynes erioed wedi dweud "paid" wrtho.

A wnaeth hi gytuno i'r hyn oedd yn digwydd, gofynnodd y fargyfreithwraig?

"Nath hi ddweud 'paid' neu 'paid a gwneud hynna'?"

"Na, dim un waith" meddai Mr Jones.

"Oedd na rhyw fath o brotest neu awgrym bod hi ddim yn consentio?"

"Na," meddai. "Dim byd."

'Euog uffernol'

Aeth yn ei flaen i ddisgrifio cael rhyw gyda'r ddynes, a wedyn fe ddechreuodd deimlo'n "euog uffernol" am dwyllo ar ei gariad ar y noson.

Dywedodd fod yr achwynydd wedi mynd i gysgu yn ei char ac fe arhosodd yn y babell am 10 munud cyn cerdded ati a dweud:

"Sori, ddylie hynny ddim fod wedi digwydd".

Dywedodd fod y ddynes wedi ateb fod hynny yn iawn.

Yna aeth yn ôl i gysgu mewn cerbyd ffrind, meddai.

Gofynnodd yr amddiffyniad iddo os oedd wedi crogi y ddynes yn y babell o gwbl.

"Na," meddai.

"Rwyt ti wedi dy gyhuddo o dreisio menyw a'i thagu hi - wnes di wneud hynny?"

"Na," meddai, gan ychwanegu fod popeth oedd wedi digwydd rhwng y ddau wedi ei gydsynio.

Croesholi

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Sion ap Mihangel, dywedodd Emlyn Jones mai celwydd oedd honiadau y ddynes yn ei erbyn.

Dywedodd fod popeth oedd wedi digwydd rhwng y ddau ar y noson gyda chaniatâd yr achwynydd.

"Mae hi'n anghywir ydy?" gofynnodd Mr ap Mihangel.

"Ydy," meddai.

"Dydy hi ddim yn dweud y gwir?"

"Na."

"Ydych chi'n dweud ei bod yn dweud celwydd?"

"Ydw," ychwanegodd.

"Mae hi'n dweud eich bod wedi ei threisio?"

"Naddo - dim o gwbl," meddai Mr Jones.

"Mae hi hefyd yn dweud eich bod wedi ei chrogi hi?"

"Naddo - dim o gwbl."

Cryfder

Gofynnodd Mr ap Mihangel iddo os oedd yn ddyn cryf, ac fel cneifiwr profiadol awgrymodd ei fod yn defnyddio ei nerth i ddal y ddafad.

Cytunodd Emlyn Jones gyda hynny ond gwrthododd yr awgrym ei fod wedi gwneud hynny i'r achwynydd ar noson y digwyddiad honedig.

Roedd yn gwadu'r awgrym hefyd ei fod wedi yfed gormod ar y noson, er ei fod yn derbyn fod rhan o'r noson, cyn iddo adael maes yr Eisteddfod ei hun, nad oedd yn hollol eglur iddo.

Wrth droi at yr hyn oedd wedi digwydd yn honedig yn y babell ar y noson, gofynnodd yr erlyniad iddo: "Pan oeddech chi yn cyrraedd y dent, doeddech chi ddim yn disgwyl i ddim byd ddigwydd?"

"Na," meddai'r diffynnydd.

Gofynnwyd iddo beth oedd wedi digwydd yn y 10 munud rhwng cyrraedd y babell a'r amser y bu i'r ddau gusanu?

Dywedodd Mr Jones na fyddai wedi "dweud na" i gusan gan yr achwynydd yn y fath amgylchiadau, ond mynnodd ei bod hi'n effro pan oedd y ddau'n cusanu.

"Ydych chi'n hollol siwr fod [enw'r ddynes] yn effro pan oedd hynny'n digwydd?" gofynnodd Mr ap Mihangel.

"Yndw, yn sicr", meddai.

"Gafodd hynny ei ddweud o gwbl? 'Be **** ti'n wneud'?"

"Naddo, dim o gwbl," meddai.

Dywedodd mai celwydd oedd honiad yr achwynydd ei bod wedi dweud wrtho am beidio a'i chyffwrdd pan oedd hi wedi dychwelyd i'r babell.

Wrth droi at yr hyn ddigwyddodd ar ôl yr ymosodiad rhyw honedig pan oedd y ddynes yn cysgu yn ei char, dywedodd yr erlyniad: "Beth oeddech chi'n ymddiheuro amdano oedd y ffordd yr oeddech chi wedi byhafio ynde?"

"Nage," meddai Mr Jones.

"Ymddiheuro am gymryd mantais ohoni wnaethoch chi ynde?"

"Nage," ail-adroddodd. Mynodd hefyd nad oedd wedi tagu'r ddynes, na'i fod wedi dweud pethau anweddus wrthi cyn gorffen y weithred rywiol.

"Nath hi ymladd yn ôl do? A dyna wnaeth i ti golli dy dymer?"

"Nes i ddim colli fy nhymer o gwbl."

Image
Gig Bwncath yn Eisteddfod 2023
Gig Bwncath yn Eisteddfod 2023

Tystiolaeth cyfaill

Brynhawn dydd Mercher fe glywodd y llys dystiolaeth gan gyfaill i Mr Jones ar adeg y digwyddiad, gafodd ei alw ar ran yr amddiffyniad.

Roedd y dyn wedi teithio i Foduan gydag Emlyn Jones ag un dyn arall ar ddiwrnod yr ymosodiad honedig.

Dywedodd ei fod wedi bod yng nghwmni'r diffynnydd a'r achwynydd ar amseroedd gwahanol yn ystod cyngerdd Bwncath yn yr Eisteddfod.

Dywedodd ei fod wedi "bachu" gyda'r achwynydd ar faes y Brifwyl y noson honno, ond doedd Mr Jones ddim yno bryd hynny.

Cafodd gynnig i fynd yn ôl i garafán y ddynes ganddi, a'r adeg honno o'r noson nid oeddynt gydag Emlyn Jones.

Fe ddaethant ar ei draws ar y ffordd i'r garafán: "Oedd o chydig yn upset, bach yn flin", meddai y tyst am ei gyfaill.

Gwadu awgrym Sion ap Mihangel fod Emlyn Jones yn 'aggressive' wnaeth o.

Synau

Dywedodd y cyfaill mai awgrym yr achwynydd oedd bod Mr Jones yn dod gyda nhw i'r garafán, ac y byddai'r tri ohonynt yn cysgu yn yr un babell am y noson.

"Nes i drio mynd i gysgu," meddai, "o ni methu cysgu. O ni'n clywed sŵn cusanu, a chlywed sŵn hi'n moanio."

Roedd y synau cusanu'n awgrymu iddo fod y ddau, yr achwynydd ag Emlyn Jones, ill dau'n cytuno i'r hyn ddigwyddodd rhyngddynt, meddai.

"Nes i ddeffro'n sydyn a gwylltio hefo Emlyn a (enw'r ddynes)." 

"Ddim yn hapus" oedd ei ddisgrifiad o ddeffro yn clywed y ddau arall yn cusanu yn y babell, yn enwedig am fod gan Mr Jones gariad ar y pryd.

Gadawodd y babell cyn mynd i gysgu mewn man arall ar ôl gweiddi ar y ddau.

Dywedodd y tyst nad oedd yr achwynydd wedi mynd allan ar ei ôl i geisio ei ddarbwyllo i aros yn y babell wedi iddo adael, er ei bod wedi ceisio ei ffonio.

Dywedodd ei fod wedi siarad gydag Emlyn Jones y bore canlynol, a'r argraff oedd wedi ei gael oedd fod Mr Jones yn "teimlo fatha ffŵl" am yr hyn ddigwyddodd ar y noson.

Ychwanegodd ei fod wedi dychwelyd i'r Eisteddfod yn ddiweddarach yn yr wythnos, gan weld yr achwynydd o bell ym Maes B.

Cafodd y tyst ei groesholi gan Sion ap Mihangel wedyn.

Dywedodd wrth y bargyfreithiwr fod Emlyn Jones yn ymwybodol ei fod wedi "bod hefo" yr achwynydd y noson honno, "ond dwi ddim yn siŵr os oedd yn gwybod ein bod wedi bod yn cusanu".

Beth oedd ei ymateb i'r ffaith y byddai tri yn y babell, gofynnodd y bargyfreithiwr iddo.

"Gan bod y tri ohona ni yna, oedd y chances drosodd," esboniodd.

Cafodd ei holi am ba mor sicr oedd o ei fod wedi clywed dau o bobl yn cusanu yn nhywyllwch y babell, ac fe'i holwyd am ddatganiad blaenorol yr oedd wedi ei wneud i'r heddlu oedd yn dweud ei fod wedi gweld y ddau arall "yn cusanu ei gilydd ar eu gwefusau".

Awgrymodd yr erlyniad nad oedd hynny'n bosib ei weld yn nhywyllwch y babell.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.