Cymru Premier: Caernarfon yn croesawu Cei Connah ar gyfer gornest nos Wener
Pum rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae’r frwydr am safleoedd yn y gemau ail gyfle yn poethi.
Nos Fawrth diwethaf fe sicrhaodd Y Seintiau Newydd eu pumed bencampwriaeth yn olynol drwy guro Cei Connah gyda chic ola’r gêm ar Gae y Castell.
Mae Cei Connah yn parhau 10 pwynt yn glir yn yr ail safle, ac fe all y Nomadiaid hawlio eu lle’n Ewrop y penwythnos yma os bydd canlyniadau yn mynd o’u plaid.
I lawr yn y Chwech Isaf ac mae Hwlffordd bedwar pwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle, tra bod angen buddugoliaeth ar Y Bala oddi cartref yn erbyn Y Fflint os am geisio dringo allan o safleoedd y cwymp.
Chwech Uchaf
Caernarfon (4ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n benwythnos i’w chofio i Gaernarfon wrth iddyn nhw guro Y Rhyl 1879 i sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Bydd y Cofis yn wynebu’r Fflint yn y rownd derfynol yn Rodney Parade, Casnewydd ar y 12fed o Ebrill gydag enillwyr y gêm honno yn hawlio lle yn Ewrop.
Er methu ag ennill dim un o’u chwe gêm ddiwethaf, mae Cei Connah yn dal 10 pwynt yn glir yn yr ail safle, ac fe all y Nomadiaid sicrhau eu lle’n Ewrop y penwythnos yma.
Mae’r bartneriaeth ymosodol o Rhys Hughes (sgorio 13, creu 11) a Harry Franklin (sgorio 12, creu 10) yn mwynhau tymor safonol i Gei Connah, gyda’r ddau wedi cyrraedd ffigyrau dwbl o ran sgorio a chreu yn y gynghrair.
Dim ond pwynt sy’n gwahanu Caernarfon (4ydd) a Pen-y-bont (3ydd), a byddai Richard Davies wrth ei fodd pe bae’n gallu codi’r Cofis uwchben y Gleision cyn diwedd y tymor i sicrhau eu safle uchaf erioed yn y pyramid Cymreig.
Mae’r ddwy ornest flaenorol rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal, a dyw’r Caneris m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (ennill 3, cyfartal 4).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖➖❌❌✅
Cei Connah: ➖➖➖❌❌
Chwech Isaf
Hwlffordd (7fed) v Met Caerdydd (10fed) | Nos Wener – 19:45
Hwlffordd sy’n parhau i arwain y pac yn y Chwech Isaf, ond bydd Tony Pennock yn disgwyl ymateb gan ei garfan wedi i’r Adar Gleision golli yn erbyn Y Fflint yn eu gêm ddiwethaf.
Mae Hwlffordd wedi cadw chwe llechen lân yn eu wyth gêm ddiwethaf, ac ar ôl ennill y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf, bydd yr Adar Gleision yn anelu i ail-adrodd y gamp eleni.
Dyw pethau ddim yn mynd cystal i Met Caerdydd sydd wedi llithro i’r 10fed safle, chwe phwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd m’ond wedi ennill unwaith (vs Llanelli), ac mae’r clwb bellach ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 6, colli 3).
Dyw Hwlffordd heb golli yn eu naw gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, ac mae wyth o’r 11 gornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mhob cystadleuaeth wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud.
Pe bae Hwlffordd yn ennill, a’r Bala’n colli brynhawn Sadwrn, yna byddai’r Adar Gleision yn diogelu eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅✅✅❌
Met Caerdydd: ➖❌➖➖➖
Llanelli (12fed) v Llansawel (8fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd Llansawel yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 2) gan agor bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp.
Mae gan Lansawel gêm wrth gefn hefyd a bydd tîm Andy Dyer yn edrych i fyny gan geisio cau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd.
Gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 27 gêm gynghrair, a dim ond 10 pwynt ar y bwrdd, mae hi wedi bod yn dymor eithriadol o siomedig i Lanelli.
Ond fe ddaeth un o’r buddugoliaethau rheiny oddi cartref yn erbyn Llansawel, felly fydd hi ddim yn noson hawdd i Lansawel.
Mae Llanelli yn sicr o syrthio ar ddiwedd y tymor, ond mae’r canlyniadau wedi gwella ychydig yn yr wythnosau diweddar gyda’r Cochion yn colli dim ond un o’u tair gêm ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌➖❌➖
Llansawel: ͏✅✅❌➖✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.