Cyfanswm o 28 mlynedd o garchar i gang cyffuriau o Wynedd, Môn a Glannau Mersi

Steven Williams, Gareth Trevor Rowlands a Darren Horton
Steven Williams, Gareth Trevor Rowlands a Darren Horton

Mae aelodau o gang cyffuriau o Wynedd, Môn a Glannau Mersi wedu cael eu carcharu am gyfanswm o 28 mlynedd ar ôl cyflenwi cocên a chanabis ar draws gogledd Cymru.

Fe ymddangosodd saith person yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun i gael eu dedfrydu. 

Cafodd wythfed person ei ddedfrydu'n flaenorol ar 9 Mehefin. 

Cafodd sawl arest ei wneud ym mis Tachwedd a Rhagfyr y llynedd yn dilyn ymchwiliad i grŵp troseddol oedd yn gweithredu ar draws Gwynedd a Môn.

Fe wnaeth 'Ymgyrch Macondo', sef enw'r ymchwiliad, bara dros gyfnod o wyth mis. 

Arian parod

Ar 10 Tachwedd, fe gafodd cerbyd oedd yn teithio o Fôn i Lannau Mersi ei stopio. Roedd y cerbyd yn cael ei yrru gan Joseph McCormick ac fe ddaeth swyddogion o hyd i £20,000 mewn arian parod. 

Ar yr un diwrnod, cafodd gwarant ei gweithredu ar gyfer cartref Gareth Trevor Rowland a arweiniodd at £90,000 o arian parod yn cael ei ddarganfod. 

Ar 14 Tachwedd, cafodd cerbyd arall oedd yn cael ei yrru gan Steve Powell ei stopio yn ardal Manceinion.

Cafodd swm sylweddol o ganabis ei ddarganfod yn y cerbyd, sef tua 3kg a oedd werth oddeutu £28,000. 

Fe wnaeth archwiliad pellach o'i gartref ddarganfod 2kg o gocên oedd werth tua £120,000. 

Ar 9 Rhagfyr, fe gafodd cyfres o warantau eu gweithredu ar draws gogledd Cymru, Manceinion a Glannau Mersi. 

Cafodd cyfanswm o 10 o bobl eu harestio yn ystod yr ymgyrchoedd a chafwyd hyd i £9,000 ychwanegol mewn arian parod.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod yr ymchwiliad wedi llwyddo i adfer "symiau sylweddol" o gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B, arian parod ac asedau gwerthfawr gwerth bron i £390,000.

Roedd y cyhuddiadau a ddaeth yn sgil hynny yn erbyn y diffynyddion yn ymwneud â chynllwyn i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2025.

Y dedfrydau:

Gareth Trevor Rowlands, 52 oed, o Lanfairpwll: Carchar am 11 mlynedd a thri mis am gynllwynio i gyflenwi cocên, cynllwynio i gyflenwi canabis a meddu ar eiddo troseddol.

Steven Powell, 62 oed, o Stockport: Carchar am 10 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis.

Darren Horton, 54 oed, o Borthaethwy: Carchar am dair blynedd a saith mis am gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis.

Steven Williams, 34 oed, o Gaernarfon: Dedfryd o dair blynedd a dau fis am gynllwynio i gyflenwi cocên.

Joseph McCormick, 34 oed, o Bootle: Dedfryd wedi'i gohirio am flwyddyn am gynllwynio i gyflenwi cocên, cynllwynio i gyflenwi canabis, meddu ar MDMA a meddu ar eiddo troseddol.

Craig Harris, 52 oed, o Lanfairpwll: Dedfryd o naw mis wedi'i gohirio am 12 mis, am gynllwynio i gyflenwi canabis.

Dennis Edwards, 22 oed, o Gyffordd Llandudno: Dedfryd o ddwy flynedd a thri mis wedi'i gohirio am dair blynedd, am gynllwynio i gyflenwi canabis a meddu ar eiddo troseddol.

Dafydd Hughes, 31 oed, o Y Felinheli: Dedfryd wedi'i gohirio am dair blynedd am gynllwynio i gyflenwi cocên.

Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd, Tracey Llewellyn: "Mae’r unigolion hyn wedi bod yn faich ar ein cymunedau ers blynyddoedd ac maent wedi achosi niwed i nifer o unigolion bregus.

"Yn ogystal â’r dedfrydau sylweddol sydd wedi'u rhoi, arweiniodd ein hymchwiliad at atafaelu symiau sylweddol o gyffuriau o werth uchel, gan sicrhau bod y sylweddau anghyfreithlon hyn wedi’u tynnu oddi ar y strydoedd.

"Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith hynod niweidiol ar gymunedau, felly mae torri’r cyflenwadau a thynnu’r rhai sy’n gyfrifol am ddelio cyffuriau o’n cymunedau yn hynod bwysig i ni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.