Nofwraig yn rhoi’r gorau i'w hymgais i nofio o amgylch Ynys Môn ar ôl 25 milltir

Llun: Sue Haines
Her nofio o amgylch Sir Fon

Mae nofwraig pellter hir wedi gorfod rhoi’r gorau i’w hymgais i fod y person cyntaf i nofio o amgylch Ynys Môn mewn un ymgais ddi-dor.

Nofiodd Sue Haines tua 25 milltir mewn saith awr a 50 munud cyn dod â’r ymgais i ben ddydd Mercher.

Mewn diweddariad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Steve Haines fod y llanw wedi troi’n gynharach na’r disgwyl.

“Bu’n ymdrech wych, 25 milltir mewn saith awr a 50 munud,” meddai.

Diolchodd hefyd i bawb oedd wedi cefnogi’r ymgais ac oedd wedi cyfrannu at Sefydliad Owen McVeigh, elusen sy'n helpu plant sydd â chanser a’u teuluoedd yn ardal Glannau Mersi.

Image
Ymgais Sue Haines
Llun: Strava

Dechreuodd Sue Haines, 54 oed o Huyton ger Lerpwl, yr her yn y môr oddi ar Borth Swtan yn gynnar fore Mercher.

Ei nod oedd nofio tua 70 milltir o amgylch yr ynys cyn dychwelyd i’r un man.

Pe bai wedi llwyddo, dywedodd mai hi fyddai’r person cyntaf i gwblhau’r daith yn ddi-dor ac mewn un diwrnod.

Roedd Ms Haines wedi bod yn hyfforddi ar gyfer yr ymgais ers dwy flynedd.

Hon oedd ei hail ymgais i gwblhau’r her, ar ôl i wyntoedd o hyd at 45mya ei gorfodi i roi’r gorau i’r ymgais y llynedd.

Mae wedi bod yn nofio pellteroedd hir mewn dŵr agored ers 17 mlynedd, gan gynnwys nofio ar draws y Sianel ac o amgylch Jersey.

Erbyn fore Iau, roedd dros £7,000 wedi’i godi i’r elusen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.