O greu Mistar Urdd i baentio: Artist o Geredigion i arddangos ei dirluniau o Gymru yn y Swistir

Wyn Mel

Mae artist o Geredigion yn dweud ei fod yn bwriadu "mynd â Chymru i'r byd" wrth iddo gael gwahoddiad i arddangos ei dirluniau mewn arddangosfa yn y Swistir ar ddechrau mis Medi.

Bydd deg o dirluniau canfas gwreiddiol gan yr artist Wynne Melville Jones yn cael eu harddangos yn y Swiss Art Expo yn Zürich yn y Swistir.

Mae’r ŵyl gelf flynyddol yn denu degau o filoedd o bobl o bob rhan o’r byd, ac mae’n un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr celf.

Wrth weithio gyda chwmni o’r Swistir dros y misoedd diwethaf, cafodd Mr Jones gyfle i ddangos ei waith yn ddigidol ar sgriniau mawr mewn arddangosfeydd celf mewn dinasoedd yn Ewrop, gan gynnwys Berlin, Cologne, Milan, Palma a Pharis.

Erbyn hyn, mae wedi cael gwahoddiad i arddangos 10 o’i dirluniau o Gymru yn Zürich.

"Mae’r holl beth wedi digwydd yn annisgwyl iawn i mi, nes i erioed freuddwydio am rywbeth ar y lefel yma," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma' fe'n byd newydd iawn iawn i fi."

Dychwelyd at baentio ar ôl 40 mlynedd

Mae Mr Jones yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. 

Cafodd ei hyfforddi fel artist, ond ni wnaeth gyffwrdd â brwsh paent am ddeugain mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe aeth ymlaen i weithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, ac fe ddaeth yn adnabyddus am greu cymeriad Mistar Urdd yn ystod ei amser fel Swyddog Cyhoeddusrwydd gyda'r mudiad ieuenctid.

Ond ar ôl iddo ymddeol, dychwelodd at ei hen ddiddordeb mewn creu gwaith celf.

Erbyn hyn, mae’n gweithio o’i stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn, ac mae wedi paentio degau o leoliadau cyfarwydd yng Nghymru.

Dros gyfnod o 15 mlynedd, dywedodd ei fod wedi paentio dros 550 o dirluniau.

"I ddweud y gwir, mae’r peth wedi datblygu’n lot cynt na be' o’n i’n ddisgwyl," meddai. 

"Ac mae’r ymateb wedi bod yn ddigon ffafriol ers y cychwyn!"

Image
Llun Wyn Mel
Un o'r tirluniau fydd yn cael eu harddangos yn y Swistir

Mae ei gelf wedi’i harddangos mewn orielau ar draws Cymru, gyda chwsmeriaid yn Ewrop, India, a'r Unol Daleithiau.

Roedd ei ddarlun o gapel Soar-y-Mynydd ger Tregaron yn eiddo i Jimmy Carter, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau.

"Paentio Cymru dwi’n neud, a dyna yw rhan bwysig o bwynt be ydw i’n neud - mynd â Chymru allan i’r byd mawr," meddai.

Er ei fod yn falch o'r cyfle i arddangos ei waith yn y Swiss Art Expo, mae'n dweud ei fod yn "dipyn o ymrwymiad".

"Mae’n costi lot i fynd i’r Swistir achos mae’n le mor ddrud," meddai.

"Dwi a fy ngwraig Linda a fy merch Manon yn mynd allan yno, a ni’n mynd i neud y job ein hunen a gobeithio fydd gyda ni syniad lot cliriach o sut mae mynd â Chymru i’r byd erbyn hynny."

'Gwneud be fi’n credu'

Mae ei waith yn seiliedig yn bennaf ar Gymru a’i diwylliant, ei phobl a’i thirlun.

"Mae’n arddull i wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae gen i ddiddordeb mawr iawn mewn pethau sy’n deillio o’n diwylliant ni, o’n hunaniaeth ni, ein pobl ni, ein hanes ni," meddai.

"Felly o fan'na mae’r lluniau yn dod, ond mae gyda fi hefyd ddiddordeb yn y tirlun a’r gole."

Mae ganddo ddiddordeb arbennig hefyd mewn hen fythynnod Cymreig.

"Dwi'n gwybod erbyn heddiw mai tai ffansi ydyn nhw, achos bod rhan fwyaf ohonyn nhw’n dai gwyliau," meddai.

"Ond maen nhw wedi magu teuluoedd mawr rhai ohonyn nhw, ac yn ogystal â bod yn gartref i bobl, roedden nhw’n gartref i ddiwylliant a ffordd o fyw hefyd."

Mae’n dweud ei fod yn falch o’i lwyddiant ers ei ymddeoliad, ond yn difaru na wnaeth ddechrau paentio’n gynt.

"Pe bawn i wedi paentio yn ystod y deugain mlynedd yna, sut fath o lunie byddwn i’n paentio heddi? Mae rhywbeth yn dweud wrtha i mwy na thebyg y bydde nhw’n fwy haniaethol (abstract)," meddai.

Ond mae’n dweud ei fod wedi cael amser i fagu hyder yn y cyfnod hwnnw.

"Os yw rhywun yn edrych ar fy lluniau ac yn dweud maen nhw’n crap, dwi'm yn poeni," meddai.

"Ond bydden i wedi poeni blynydde yn ôl pan oeddwn i’n fyfyriwr.

"Fi jyst yn gwneud be fi’n credu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.