Tân mawr yn dinistrio sawl cartref yn Sir Caerffili
Mae pum cartref mewn pentref yn Sir Caerffili wedi’u dinistrio ar ôl i dân mawr ymledu yno.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Gefn-y-pant yn Nhrecelyn toc cyn 16.00 ddydd Mercher yn dilyn tân mewn tŷ yno.
Cafodd 12 injan dân eu hanfon i’r lleoliad wrth i'r tân ymledu i dai a gerddi cyfagos, gyda fyrdd yn cael eu cau a thrigolion yn gorfod gadael eu cartrefi.
Y gred yw nad oes unrhyw un wedi'i anafu yn ystod y digwyddiad.
Fe wnaeth y gwasanaeth rannu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher yn annog pobl i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd mwg o’r tân.
Mae Clwb Rygbi Trecelyn wedi cynnig cefnogaeth i’r trigolion sydd wedi eu gorfodi i adael eu cartrefi yn sgil y tân.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Mae’n torri ein calonnau wrth weld y tân erchyll yn gynharach heddiw yng Nghefn-y-pant a’r dinistr mae wedi achosi mewn cyfnod mor byr.
“Ni allwn ddechrau dychmygu beth mae’r bobl sydd wedi’u heffeithio yn mynd drwyddo ar hyn o bryd ac mae’n calonnau yn mynd allan i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiad mor ddychrynllyd ac erchyll, a gobeithiwn fod pawb wedi’u canfod yn ddiogel ac yn iach.
“Bydd ein clwb yn agored am 8.00 yn y bore ac fe allwn gynnig diodydd oer a phoeth yn ogystal â’n cyfleusterau newid a chawodydd i bwy bynnag sydd eu hangen. Does dim angen cysylltu â ni neu fwcio – yr unig beth sydd angen ei wneud yw dod yma
“Dyma ein cymuned ac rydym yn hapus i allu cynnig rhyw fath o gymorth lle mae’n bosib.”
Mae apêl bellach wedi'i sefydlu ar dudalen Go Fund Me er mwyn codi arian ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad.
Llun: Clwb Rygbi Trecelyn