Dyn ifanc o'r gogledd wedi 'dioddef anafiadau difrifol' mewn damwain yn Tsieina
Mae dyn ifanc o ardal Wrecsam wedi "dioddef anafiadau difrifol" mewn gwrthdrawiad yn Tsieina yn ystod taith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai.
Roedd Dyfan Hughes yn seiclo gyda’i ffrindiau James Thomas a Louis Dennis er mwyn codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.
Ers cychwyn ar y daith ym mis Awst y llynedd, mae'r tri, sydd yn cofnodi eu taith drwy gyhoeddi fideos ar eu cyfrif WestHeads ar TikTok, wedi teithio drwy nifer o wledydd Ewrop.
Fe wnaeth y tri gyrraedd Tsieina ddechrau Mehefin ar ôl teithio drwy ganol Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan.
Maen nhw'n parhau yn y wlad ar hyn o bryd.
Cafodd y newyddion ei rannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol West Heads ddydd Sadwrn bod Dyfan wedi bod mewn damwain ac yn yr ysbyty.
Mae rhagor o fanylion bellach wedi’u rhannu, gyda ffrindiau Dyfan yn dweud ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda lori wrth reidio ei feic.
Mae rhieni Dyfan wedi teithio i Tsieina i fod yn yr ysbyty gyda’i mab.
Mewn datganiad pellach fore Iau, dywedodd ffrindiau Dyfan: “Hoffwn roi diweddariad am Dyfan yn dilyn ei ddamwain.
“Mae o wedi dioddef anafiadau difrifol iawn, gan gynnwys anafiadau mawr i naill goes ac i'w droed chwith, anaf difrifol i’w scalp ac mae wedi torri asgwrn yn ei wddf.
“Mae eisoes wedi bod drwy sawl triniaeth ac mae’n derbyn gofal arbenigol yn yr ysbyty.”
Ychwanegodd y datganiad: “Mae ganddo ffordd hir o’i flaen, ond yn ffodus mae o mewn ysbryd da, yn aros yn bositif ac yn brwydro trwy’r cyfan.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am bob neges, gair caredig a darn o gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn.”