Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae gyrrwr beic modur 76 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng beic modur a fan ar yr A488 ger Mynachdy, Tref-y-Clawdd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 12:00 ddydd Mercher rhwng y beic modur du Harley Davidson a fan Ford Transit wen.
Bu farw'r gyrrwr beic modur yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.
Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu.
Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod tra'r oedd yr heddlu'n cynnal ymchwiliad, cyn iddi ail-agor tua 00:30 fore Iau.
Mae ymchwiliad y llu yn parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A488 rhwng Dolau a Mynachdy, ac sydd â lluniau dashcam, gysylltu â nhw ar eu gwefan neu drwy ffonio 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 26000658121.