Tân wedi'i 'gynnau'n fwriadol' ar safle glanio hofrennydd mewn ysbyty
Cafodd tân ei gynnau’n fwriadol yn agos i safle glanio hofrennydd ger ysbyty yn ne Cymru ddydd Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful wedi adroddiad bod tân yno am 12:30 y prynhawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Cafodd y tân ei gynnau’n agos i helipad yr ysbyty, rhan allweddol o system yr ysbyty sydd yn cael ei ddefnyddio i ddod a rhai o’r cleifion mwyaf sâl neu sydd â’r anafiadau mwyaf difrifol i’r ysbyty mor sydyn â phosib, yn aml ar adegau pan mae bob munud yn cyfrif.
“Diolch byth, oherwydd ymateb cyflym timau'r gwasanaethau brys, daethpwyd â'r tân dan reolaeth, ac ni chafodd unrhyw gleifion na gwasanaethau ysbyty eu heffeithio.
“Ond, gallai'r digwyddiad hwn fod wedi cael canlyniadau mwy difrifol.”
Dywedodd y bwrdd iechyd bod digwyddiadau o’r math yma “yn rhoi pwysau ychwanegol ar dimau sydd eisoes yn brysur a gallant dynnu sylw ac adnoddau oddi wrth y rhai sydd wir eu hangen.
“Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu hymateb a'u cefnogaeth gyflym.
“Gofynnwn i bawb gydnabod y peryglon go iawn a'r sgil effeithiau y gall tanau bwriadol eu cael, sydd yn gallu newid bywyd, ac i'ch atgoffa i fod yn wyliadwrus.”
Mae unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600262796.