Burnham: Dim bwriad ailymuno â'r UE yn ystod tymor y Senedd
Mae Andy Burnham wedi dweud nad yw'n bwriadu cyflwyno cynigion i Brydain ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn ystod tymor presennol Senedd San Steffan.
Dywedodd y Prif Weinidog na fyddai'n "symud yn gynt na'r cyhoedd", ond yr hoffai weld y DU yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn ystod ei oes.
Ychwanegodd y byddai'n gweithio i sicrhau cytundeb gwell â Brwsel.
Mae Burnham hefyd wedi mynnu na fydd yn galw etholiad cyffredinol "unrhyw bryd yn fuan".
Daw hyn yn dilyn dyfalu y gallai alw etholiad er mwyn sicrhau mandad i gyflwyno cynigion i ailymuno â'r UE i'r pleidleiswyr.
Wrth ymateb i gwestiwn am Brexit ar raglen Good Morning Britain ITV, dywedodd Burnham:
"Dwi ddim yn meddwl bod pethau wedi gweithio allan yn y ffordd roedd pobl wedi dweud y bydden nhw ar y pryd, yn enwedig o ran mewnfudo.
"Dwi'n credu bod gennym ni lai o reolaeth rŵan. Y rheswm bod yr argyfwng cychod bach wedi codi yw nad ydyn ni'n gallu dychwelyd pobl.
"Mae pobl yn gwybod nad ydyn ni'n gallu gwneud hynny yn yr un ffordd ag yr oedden ni'n gallu ei wneud o'r blaen."
Daw sylwadau'r Prif Weinidog cyn cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel y mis nesaf, lle mae disgwyl iddo gyflwyno cynigion i wella'r berthynas rhwng y DU a'r UE.
Yn ystod y cyfweliad ag ITV, dywedodd Burnham:
"Dwi ddim yn cynnig unrhyw newidiadau yn ystod tymor y Senedd bresennol," meddai.
"Dwi ddim yn mynd i wyro oddi wrth y llinellau coch oedd ym maniffesto Llafur.
"Dwi am barchu'r hyn ddywedais i wrth bleidleiswyr Makerfield. Ond dwi ddim yn mynd i ddweud y bore yma bod y cytundeb sydd gennym ni yn ddigon da i Brydain. Dydy o ddim yn ddigon da i Brydain.
"Dwi'n credu y gallwn ni ei wella, a dwi'n mynd i arwain trafodaeth ar sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd y gall pobl ei chefnogi."
Llun: Gary Oakley/PA
