Bachgen oedd mewn coma yn synnu meddygon ar ôl gwella 'mor sydyn'
Mae bachgen 17 oed o Gaerdydd wedi synnu meddygon ar ôl gwella "mor sydyn" o gyflwr difrifol a oedd yn ei atal rhag gallu llyncu a bwyta'n ddiogel.
Yn ystod cyfnod pan y dylai wedi bod yn sefyll ei arholiadau Lefel A, aeth Glodi Dimonekene i'r ysbyty gyda symptomau niwmonia, gan arwain at newid llwyr yn ei fywyd.
Dywedodd doctoriaid fod symptomau Glodi yn ddifrifol ac fe gafodd ei osod mewn coma ysgogedig (induced coma).
Yn ystod y coma, fe ddioddefodd strôc ac, ar ôl dod allan o'r coma, nid oedd yn gallu llyncu, bwyta nac yfed.
Roedd ganddo ddysffagia, cyflwr sy'n achosi trafferthion difrifol wrth lyncu. Heb reoli'r cyflwr, gallai Glodi fethu â bwyta neu yfed eto a chael ei fwydo trwy bibell.
Derbyniodd Glodi driniaeth ysgogiad trydanol ffaryngeal, neu PES (pharyngeal electrical stimulation), sy'n cael ei rhoi drwy ddefnyddio system Phagenyx.
Mae'r driniaeth yn fath o therapi sydd yn cefnogi adferiad llyncu trwy ysgogi'r nerfau yn y gwddf gan ddefnyddio siociau trydanol bach, a hynny trwy ddefnyddio cathetr.
Glodi oedd un o'r bobl ieuengaf i dderbyn y driniaeth, ac roedd yn derbyn sesiynau tua 10 munud o hyd a gafodd eu haddasu i'w anghenion.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud nad yw'r math hwn o driniaeth yn addas i bawb.
'Gwella'n sydyn'
Ar ôl derbyn triniaeth, fe wnaeth Glodi ddechrau bwyta ac yfed yn ddiogel o fewn pythefnos, cyflymder aruthrol ar gyfer y math yma o driniaeth.
Dywedodd Dr Shakeel Ahmed, meddyg strôc ymgynghorol a oedd yn gweithio gyda Glodi, nad oedd erioed wedi gweld rhywun yn gwella mor sydyn.
"O fewn cyfnod byr, fe wnaeth gallu Glodi i lyncu wella'n llwyr," meddai.
"Yn fy ngyrfa broffesiynol, dwi erioed wedi gweld unrhyw un yn gwella mor sydyn â hyn."
Mae Glodi'n dweud ei fod wedi "ennill ei annibyniaeth yn ôl" nawr ei fod yn gallu mynd allan am fwyd a diod gyda'i ffrindiau.
"Roedd hyn wedi newid popeth," meddai.
"Mae gallu bwyta ac yfed eto wedi rhoi fy annibyniaeth yn ôl i mi.
"Dwi mor ddiolchgar i'r holl staff wnaeth fy helpu, fyddwn i ddim yma hebddynt."
Ychwanegodd ei fod yn mynd yn ôl i fyw bywyd fel yr oedd cyn derbyn triniaeth, ac yn bwriadu treulio amser gyda'i ffrindiau eto.
