Annog gyrwyr i osgoi teithiau diangen yn dilyn cynnydd mewn prisiau petrol
Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi teithiau "diangen" wedi i brisiau petrol godi.
Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, fe wnaeth prisiau casgenni olew godi i dros $100 ddydd Llun, a hynny oherwydd y rhyfel yn Iran.
Wedi i Donald Trump fynnu y byddai'r rhyfel ar ben "yn fuan iawn" ddydd Llun, mae'r marchnadoedd yn Asia wedi ymateb yn ffafriol fore Mawrth, gyda phrisiau yn gostwng i tua $92.48 am gasgen.
Yn y DU, mae pris litr o betrol ar gyfartaledd wedi codi 5 ceiniog i 137.5c ers 28 Chwefror, gyda disel yn codi 9 ceiniog i 151.0c.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae prisiau petrol wedi codi i tua 150c y litr pan fo pris casgen olew yn $100.
Yn ôl llywydd y cwmni moduro AA, Edmund King, mae angen i yrwyr ystyried newid eu hymarferion gyrru er mwyn osgoi teithiau "diangen."
"Yr hiraf mae'r rhyfel yma'n parhau, y mwyaf o effaith fydd ar gost olew," meddai.
"Pan mae'r pris am gasgen yn cyrraedd $100, mae pryderon ar draws y farchnad a'r diwydiant.
"Bydd cynnydd graddol mewn prisiau petrol, ond ni ddylai hyn digwydd dros nos gan fod tanwydd yn cael ei brynu ar brisiau blaenorol.
"Ein hawgrym yw y dylai gyrwyr ddim newid eu hymarferion wrth lenwi eu ceir gyda thanwydd, ond ystyried teithiau diangen a newid eu ffordd o yrru i arbed tanwydd."
Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog y DU yn dweud nad yw awgrym yr AA yn gysylltiedig ag unrhyw brinder cyflenwad.
“Rwy’n deall bod y sylwadau hynny’n ymwneud mwy â chyngor i yrwyr i arbed arian yn hytrach nag unrhyw awgrym ein bod ni’n brin o gyflenwad," meddai.
“Rydym yn amlwg yn monitro prisiau’n agos yn sgil y sefyllfa yn y Dwyrain Canol.”
Mewn ymateb i’r argyfwng, mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi wynebu galwadau i ddileu'r cynllun am gynnydd o 5c mewn treth tanwydd a oedd i fod i gael ei gyflwyno’n raddol o fis Medi ymlaen.