‘Anhygoel’: Ruby Evans yn diolch i’w chefnogwyr ar ôl cael ei choroni'n bencampwraig
Mae’r gymnastwraig o Gaerdydd, Ruby Evans, wedi dweud bod ennill Pencampwriaethau Gymnasteg Artistig Prydain wedi bod yn brofiad “anhygoel”.
Daeth Evans y Gymraes gyntaf i ennill y brif bencampwriaeth ym Mhencampwriaethau Prydain ers 55 mlynedd ar ôl gorffen ar frig y gystadleuaeth yn Lerpwl ddydd Sadwrn.
Daw'r fuddugoliaeth hanesyddol ychydig ddyddiau’n unig ar ôl i’r cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ddathlu ei phen-blwydd yn 19 oed.
Dros benwythnos hynod lwyddiannus, fe enillodd cystadleuaeth y llawr hefyd.
Mewn neges ar Instagram, dywedodd Evans: “Am Bencampwriaethau Prydeinig anhygoel, yn ennill teitl Pencampwr Prydain, a Phencampwr y llawr.
“Ac hefyd y canlyniad annisgwyl o gyrraedd ffeinal y bar!
“Diolch i bawb am eich cefnogaeth dros y penwythnos, fe wnes i garu cwrdd â chi.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1983514837612146737?s=20
Yn 18 oed, Ruby oedd y Gymraes gyntaf i ennill medal mewn cystadleuaeth unigol ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd y llynedd.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ar y pryd, dywedodd: "Dwi’n rili hapus i gael y medal arian a dwi’n gyffrous i beth sy’n dod nesaf."
Y gobaith eleni yw y bydd Evans yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow, sy'n cychwyn ym mis Gorffennaf.
Llun: Ruby Evans ar ôl ennill Pencampwriaeth Prydain (British Gymnastics)