Cyhuddo Llywodraeth Cymru o ‘lusgo traed’ ar ail gartrefi
Cyhuddo Llywodraeth Cymru o ‘lusgo traed’ ar ail gartrefi
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo traed” ar reoliadau ail gartrefi a llety gwyliau.
Roedd y Gymdeithas wedi trefnu rali yn Llangefni ddydd Sadwrn “er mwyn lansio rhan nesaf Nid yw Cymru ar Werth".
Dywedodd y Gymdeithas mai bwriad y rali oedd annog awdurdodau lleol "i ddefnyddio'r grymoedd newydd" y mae Llywodraeth Cymru am gynnig iddynt.
Dywedodd un o drefnwyr y rali Osian Jones: “Dylai'r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau nawr".
Ychwanegodd Mr Jones fod "ewyllys gwleidyddol o'n plaid" ond nad oes "canllawiau nac addewidion o gyllid" wedi mynd at awdurdodau lleol hyd yn hyn.
Bydd defnydd cynllunio tai newydd yn newid o fis Ebrill, gyda thri chategori ar wahân sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Bydd modd i gynghorau gynyddu treth trafodiadau tir (land transaction tax) ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr a gofyn i bobl ymgeisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid pwrpas y tŷ.
"Gallai'r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau," ychwanegodd Mr Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu fod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu tŷ gweddus a fforddiadwy yn eu cymunedau.
"Mae gennym ymrwymiad uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o dai carbon isel i’w rhentu yn y sector gymdeithasol yn ystod cyfnod y llywodraeth yma ac wedi ymrwymo i ddefnyddio’r systemau gynllunio, eiddo a threthi i fynd i'r afael ag anghysonderau yn y farchnad dai presennol."