Wcráin: Y rhyfel yn dod i ben 'cyn gynted â phosib’ medd Putin

Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi dweud y bydd Rwsia yn gwneud popeth y gall i ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben “cyn gynted â phosib.”
Roedd Mr Putin yn cyfarfod gyda phrif weinidog India Narendra Modi mewn uwchgynhadledd yn Uzbekistan.
Dywedodd Mr Putin: “Rwy’n gwybod beth yw eich barn ar yr anghydfod yn Wcráin, y pryderon rydych yn mynegi yn gyson. Byddwn yn gwneud popeth i ddod â hyn i ben cyn gynted â phosib."
Roedd Mr Modi wedi dweud wrth Mr Putin: “Rwy’n gwybod nid yw’r cyfnod yma yn gyfnod o ryfel, rwyf wedi siarad â chi am hyn dros y ffôn.”
Darllenwch fwy yma.