Dros 1,000 yng Nghaerfyrddin i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir

17/09/2022

Dros 1,000 yng Nghaerfyrddin i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir

Mae Sir Gaerfyrddin wedi croesawu Eisteddfod yr Urdd yn swyddogol gyda gŵyl gyhoeddi ddydd Sadwrn.

Yn wahanol i'r arfer, bydd digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnosau i groesawu'r ŵyl ieuenctid.

Bydd dwy orymdaith dros yr wythnos nesaf a chyfres o weithgareddau eraill wedi'u trefnu ar gyfer y dyddiau i ddod.

Ddydd Sadwrn roedd y cyntaf o'r dathliadau yn cael ei gynnal wrth i dros fil o blant a phobl ifanc orymdeithio drwy Gaerfyrddin.

Wedi'r orymdaith am 11:00 roedd dathliad ym mharc y dref oedd yn cynnwys stondinau, chwaraeon, dawnsio ac adloniant byw.

Gyda'r nos bydd Fflur Dafydd ac Einir Dafydd yn perfformio mewn gig yng Nghlwb y Cwins, Caerfyrddin.

Nos Sul, bydd Cymanfa Ganu yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 18:00.

'Cyffro mawr'

Mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin hefyd wedi trefnu ail orymdaith yn Llanymddyfri ar 24 Medi.

Llanymddyfri yw'r dref fydd yn croesawu'r ŵyl y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Carys Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Yr Urdd 2023: “Am y tro cyntaf erioed bydd ail orymdaith yn cael ei chynnal i gloi’r Ŵyl Gyhoeddi ar ddydd Sadwrn 24ain o Fedi yn Llanymddyfri. 

“Mae cyffro mawr yn tyfu ar hyd y Sir wrth i ni agosáu at groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023 i’r ardal.  Edrychwn ymlaen at ddathlu cyhoeddiad yr Ŵyl, a chroesawu Urdd Gobaith Cymru i Sir Gâr dros yr wythnos nesaf.”

Ar drothwy’r Ŵyl Gyhoeddi, dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Nid ar chwarae bach mae trefnu a chynnal Gŵyl Gyhoeddi nac Eisteddfod. 

"Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Gwaith, i’r plant a phobl ifanc a’r holl wirfoddolwyr yn eu cymunedau am eu hymroddiad ar ôl yr holl brysurdeb yn dewis testunau, trefnu gweithgareddau a chasglu arian er mwyn croesawu a chynnal Eisteddfod yr Urdd 2023 i Sir Gaerfyrddin.

Dyma rai delweddau o'r orymdaith ddydd Sadwrn:

Image
Llanymddyfri
Image
Llanymddyfri
Image
Llanymddyfri

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn cael ei gynnal rhwng 27 Mai a 3 Mehefin. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.