Pobl ifanc 'heb ddewis' ond mynd yn breifat am wasanaethau iechyd meddwl

ITV Cymru 17/09/2022
stori ITV

Nid oes "unrhyw ddewis" ond mynd yn breifat am wasanaethau iechyd meddwl, yn ôl rhai pobl ifanc yng Nghymru.

Mae Ffion a Haf o'r Rhondda wedi bod ar restr aros am wasanaethau iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol am dros flwyddyn, cyn troi at therapi preifat. 

Mae GIG Cymru yn dweud y dylai unigolion sydd angen triniaeth iechyd meddwl ei chael o fewn 56 diwrnod ar ôl cael asesiad gofal sylfaenol.  Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn wir. 

Mae Ffion, 20, sy'n fyfyrwraig o'r Gelli yn un sydd wedi troi at therapi preifat ar ôl disgwyl dros flwyddyn ar restr aros y GIG. 

“Es i at y meddyg teulu ym mis Mehefin 2021. Ges i apwyntiad dros y ffôn lle ces i fy nghyfeirio at gymorth bellach, ond oherwydd y rhestrau aros fe wnaeth y GP argymell Mind Cymru i mi,” meddai. 

“Cefais fonitro gweithredol gyda Mind am fis o Awst i Medi.” 

Roedd hyn yn golygu bod yr elusen yn cysylltu â Ffion bob pythefnos i ofyn sut oedd hi. 

Ers hynny, mae Ffion wedi bod yn aros blwyddyn a heb glywed unrhyw beth o ran ei statws ar y rhestr aros am wasanaethau'r GIG. 

“Roedd yn rhaid i mi fynd yn breifat o ganlyniad i'r amseroedd aros hyn gan fy mod angen ymyrraeth frys.

"Ro'n i'n gwybod y mwyaf o amser byddai’n mynd heibio heb gefnogaeth broffesiynol, y gwaetha' fyddwn i.”  

Fodd bynnag, nid Ffion yw’r unig un sydd mewn sefyllfa o’r fath.

Roedd Mind Cymru wedi darganfod bod rhai pobl yn aros am fisoedd, hyd yn oed am flynyddoedd, i gael cefnogaeth fwy dwys, gyda dros draean o bobl ifanc yn aros dros 28 diwrnod i gael asesiad cychwynnol gan ofal sylfaenol y GIG.  

'Unrhyw beth ond hawdd’

Mae Haf, 23, wedi bod yn mynd at ei meddyg teulu am gymorth iechyd meddwl gydag iselder ers yn 16 mlwydd oed.

Hyd yma, mae hi wedi bod ar y rhestr aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y GIG ers 2019. 

“Mae'r profiad wedi bod yn unrhyw beth ond hawdd,” meddai Haf. 

“Ro'n i mewn crisis ychydig fisoedd yn ôl a ches i feddyginiaeth gwrth-iselder gwahanol gan y meddyg teulu, ond dwi dal heb gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd therapi neu le ar y rhestr aros oeddwn i.” 

Ar ôl aros am dair blynedd ar gyfer gwasanaethau y GIG, fe wnaeth Haf droi at ymyrraeth breifat. 

“Doeddwn i ddim am fod adref ar fy mhen fy hun yn ofni beth fyddwn i'n ei wneud achos fy iechyd meddwl," meddai.

"Doedd gen i ddim dewis arall ond mynd yn breifat am ddiogelwch fy hun. Mae fy sesiynau therapi yn costio dros £150 y mis bellach, sy'n straen ychwanegol.” 

Mae elusen Mind Cymru yn cydnabod nad yw triniaethau preifat yn opsiwn fforddiadwy i bob un sydd eu hangen. 

Dywedodd Simon Jones, pennaeth polisi Mind Cymru: “Dyw hi ddim yn syndod bod rhai pobl yn troi at driniaeth breifat yn hytrach nag aros am fisoedd am wasanaethau ar y GIG. Fodd bynnag, nid yw hyn yn opsiwn i bawb.

“Mae anghydraddoldeb amlwg o ran mynediad pobl ifanc i gefnogaeth gynnar yn mynd yn ôl sawl blwyddyn. Mae angen cynyddu opsiynau a chapasiti yn y maes hwn ar frys.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n ddrwg gennym glywed am brofiadau'r bobl ifanc yma. Rydym yn cynyddu cyllid er mwyn helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella gwasanaethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.