Cynnydd yr asgell dde eithafol yn 'batrwm sy'n ail-godi yn Ewrop'

16/09/2022

Cynnydd yr asgell dde eithafol yn 'batrwm sy'n ail-godi yn Ewrop'

Mae'r cynnydd yn yr asgell dde eithafol yn 'batrwm sy'n ail-godi yn Ewrop', yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.

Daw hyn wedi i Brif Weinidog Sweden, Magdalena Andersson, dderbyn iddi golli etholiad wrth i bleidiau'r asgell dde baratoi i ffurfio llywodraeth.

Dywedodd Mared Gwyn wrth Newyddion S4C fod "Magdalena Andersson, y Prif Weinidog, wedi ymddiswyddo oherwydd bod hi 'di methu ennill mwyafrif yn yr etholiad dros y penwythnos.

"Ma' hynny'n golygu bod rwan, mae  pedair plaid ar y dde yn gallu dod at ei gilydd o bosib i ffurfio llywodraeth. O'r pleidia' hynny, y blaid sy' 'di ennill y mwya' o bleidleisia ydi'r Sweden Democrats y  blaid asgell dde eithafol sydd â'u gwreiddia mewn symudiada neo-Natsi."

Er hyn, plaid y Democratiaid Sosialaidd wnaeth ennill y mwyaf o bleidleisiau ond dim digon i lywodraethu.

"Ma' 'na bryder am wrth-semitiaeth, am hiliaeth ac am daliada o'r fath o fewn y Sweden Democrats a'r pryder ydi y bydd y blaid hefo'r daliada yma yn gallu cael ryw fath o ddylanwad ar y llywodraeth yn y dyfodol," meddai Mared.

Nid ydy'r sefyllfa yn Sweden yn un unigryw, gan bod y cynnydd yn y gefnogaeth tuag at yr asgell dde eithafol hefyd i'w weld yn amlwg mewn gwledydd eraill yn Ewrop, o Ffrainc i'r Eidal. 

"Hefyd efo Le Pen yn Ffrainc lle ma'r asgell dde eithafol yn closio at yr asgell dde gymhedrol ac yn gallu dod i lywodraethu. Y pryder yn Ewrop ydi y bydd 'na daliada' gwrth-mewnfudo yn dod i'r amlwg ac y bydd hynny yn cael effaith ar bolisia' Ewropeaidd.

"Rhaid cofio bod Sweden yn dal arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd o fis Ionawr nesaf ymlaen ac mae'n saff i ddeud y bydd gan y Sweden Democrats, y blaid asgell dde eithafol 'ma, ddylanwad felly o bosib hyd yn oed ar bolisia' Ewropeaidd."

Yn ôl Mared, mae'r cynnydd diweddar mewn trais a throsedd ar strydoedd Sweden wedi "bwydo i mewn i ryw fath o naratif gwrth-fewnfudo.

"Wrth gwrs, ma' 'na nifer o bobl yn Sweden yn credu bod rhaid cael rheola' llymach ar fewnfudo ac ma' 'na gynifer ohonyn nhw wedi rhoi eu pleidlais i'r blaid asgell dde eithafol 'ma.

"Ond, yn ehangach, ma' 'na bryder y bydd daliada gwrth-semitaidd, hiliaeth a ryw fath o deimlada yn erbyn pobl o'r tu allan, a'r syniad 'ma bod rhaid rhoi Sweden yn gyntaf , hynny ydi yr holl ideoleg  gwyn, cenedlaetholgar 'ma oedd yn amlwg yn y blaid yn ôl yn yr 80au yn dod i'r amlwg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.