Newyddion S4C

Y canwr R Kelly wedi'i gael yn euog o droseddau pornograffi plant

LA Times 15/09/2022
R Kelly / Flickr

Mae'r canwr RnB R Kelly wedi'i gael yn euog o droseddau pornograffi plant yn dilyn achos llys yn Unol Daleithiau America.

Mae Kelly, 55, eisoes wedi'i garcharu am 30 blynedd wedi iddo ei gael yn euog o droseddau rhyw a thwyll ym mis Mehefin.

Fe'i cafwyd yn euog o dri chyhuddiad o droseddau pornograffi plant yn dilyn yr achos llys yn Chicago.

Ond fe'i cafwyd yn ddieuog o gyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn honiadau ei fod wedi ceisio twyllo er mwyn dylanwadu ar ganlyniad ei achos llys am droseddau pornograffi plant yn 2008.

Fe fydd Kelly yn wynebu dau achos llys arall, un yn Chicago ac un yn Minesota, maes o law.

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.