Newyddion S4C

Lansio crys newydd tîm pêl-droed Cymru

15/09/2022
Crys Cymru

Bydd crys newydd pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ar gael i'r cyhoeddi brynu ddydd Iau. 

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod "y crys coch yn symboleiddio'r ddraig goch sy'n cynrychioli ysbryd ac hanes ein cenedl falch ni."

Mae cennin pedr wedi ei amgylchynu gan yr arwyddair enwog 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' i'w ganfod ar gefn y crys.

Mae'r crys oddi-cartref yn cynrychioli baner Cymru, gan ei fod yn wyn gyda choler coch a gwyrdd. 

Roedd modd i gefnogwyr archebu'r crys o flaen llaw ers 3 Medi, a bydd yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ddydd Iau. 

Bydd tîm Rob Page yn gwisgo'r crys am y tro cyntaf yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl ddiwedd y mis cyn y byddant yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd.

Mae Cymru yng Ngrŵp B ac fe fydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Iran, Lloegr a'r Unol Daleithiau America.

Fe fydd Cymru yn dechrau'r bencampwriaeth drwy wynebu'r UDA ar 21 Tachwedd.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.