Rheilffordd yn Eryri gyda'r 'golygfeydd gorau' yn Ewrop

Mae rheilffordd Eryri wedi cael ei henwi fel yr un gyda'r 'golygfeydd gorau' yn Ewrop.
Yn ôl arolwg gan Which?, mae tair o reilffyrdd gorau Ewrop yn Eryri, gyda'r Parc Cenedlaethol yn gartref i'r rheilffordd orau yn y cyfandir i gyd.
Fe gafodd Rheilffordd Ffestiniog ei henwi fel yr un orau flwyddyn yn unig wedi i ardaloedd llechi Gwynedd ennill statws rhyngwladol UNESCO a derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd.
Bydd y cyhoeddiad yn hwb i gynlluniau uchelgeisiol cwmni rheilffordd Ffestiniog i wella teithiau ac adnewyddu'r gweithdai ar hyd y rheilffordd.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Cwmni Rheilffordd Ffestiniog