Image

Mae rhybudd melyn am law trwm i rannau o ogledd Gymru.
Fe fydd y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 00:00 a 11.00 ddydd Llun.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar 5 o siroedd yng ngogledd Cymru sef Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod siawns y gallai cartrefi a busnesau brofi difrod yn sgil llifogydd ac mae yna rybuddion am golli pŵer.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael ac y gallai hyn effeithio ar wasanaethau trên a bws .
Mae disgwyl y gallai hyd at 20-40mm o law ddisgyn gyda 60-80mm mewn mannau o fewn cyfnod o dair i chwe awr.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.