Atgofion cyn-faer Caernarfon o ymweliad y Frenhines â'r dref
Atgofion cyn-faer Caernarfon o ymweliad y Frenhines â'r dref
Gyda Chaernarfon yn dref frenhinol, mae gan gyn-faer y dref atgofion o ymweliad Ei Mawrhydi Elizabeth II yn ymweld.
Fe wnaeth y Frenhines ymweld â Chaernarfon yn 1953 a 1963, ac fe roddodd y Frenhines statws Brenhinol i'r dref.
Yn 1969, roedd sylw'r byd wedi ei hoelio ar y dref ar gyfer arwisgo Brenin Charles III yn Dywysog Cymru, gyda dau ymweliad arall ym 1975 ac yn 2010.
Un sy'n cofio'r Frenhines yn ymweld â Chaernarfon ydy cyn-faer y dref, Hywel Roberts.
"Odda ni'n cael reharsal dydd Sadwrn cynt wedyn mi ddaru Huw Daniel ddeud ma' nhw'n mynd ar y balconi wan, ac odda nhw'n mynd i fod yna am bum mlynedd yn ôl y rhaglen," meddai.
"Wedyn o'n i'n deud "O 'da ni'n mynd efo nhw?
"Na wyt ti'n aros yn fanna", medda fo."
"Wedyn dyma fi'n meddwl dwi'm yn mynd i golli'r cyfle o fynd ar y balconi efo'r Frenhines wedyn be nes i oedd fel odda ni, odda ni 'di cael cyfle i siarad hefo'i rwan, ac o'n i 'di dod i ddeall bod hi'n hawdd i siarad efo hi.
"Fel odda ni'n mynd am y balconi, dyma fi'n deud wrth hi, "If you'd like me to point out any features of interest or to answer any questions, I'd be very pleased to do so Ma'am."
O fewn ychydig o eiliadau iddi fynd ar y balconi, dywedodd Mr Roberts fod y Frenhines wedi troi tuag ato a gofyn wrth bwyntio at y Cei Llechi - "Tell me what is that area there used for?"
"Wel oddo'n gyfle gwych i mi," meddai.