Myfyrwyr yn poeni am gostau byw ar ddechrau tymor newydd

ITV Cymru 13/09/2022
Cari Jones

Mae myfyrwyr yn dweud y bydd angen byw'n gynnil yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol oherwydd y cynnydd mewn prisiau bwyd, rhent, biliau a theithio. 

Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae rhai yn credu y bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried byw’n agosach at eu haelwydydd, neu gefnu ar addysg bellach neu addysg uwch yn gyfan gwbl.  

Mae costau byw wedi cynyddu’n raddol ers dechrau 2021 gyda chwyddiant ariannol ar ei uchaf ers 1982.

Yn ôl Llywodraeth Cymru: “Mae £15m arall wedi ei ddarparu ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n cynnig ehangu’r cymorth ariannol i’r rheini sy’n wynebu pwysau ariannol eithafol.“

‘Amhosib byw fel o’r blaen’

Mae Mali Thomas yn fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn: “Yn sicr bydd rhaid budgetio… wedi dechrau hynny’n barod o ystyried faint o student loan ga’i, a faint o hwnna fydd gen i i joio yn lle dim ond talu bills a rhent,” meddai. 

Mae Mali’n galw ar bobl mewn awdurdod i weithredu er mwyn taclo’r broblem: “Dwi’n gobeithio y bydd y llywodraeth yn gwneud mwy.”

Dywedodd Lowri Green, sydd hefyd yn ei thrydedd flwyddyn “mai mater o weld sut eith hi fydd hi.. ac awn ni o fan ‘na.

“Yn amlwg bydd rhaid bod yn ofalus; diffodd y golau pan dwyt ti ddim yn yr ystafell, gwisgo cot neu siwmper yn y tŷ, defnyddio llai o ddŵr i ferwi yn y tegell ac yn y blaen,” meddai. 

“Mae tipyn o’m ffrindiau wedi ystyried cael aelodaeth i’r gym er mwyn defnyddio’r cawodydd gan fod hynny i weld yn ffordd ratach yn lle defnyddio dŵr y tŷ.”

Costau byw Prifysgol Caerdydd

Ar wefan Prifysgol Caerdydd, mae yna gyfrifiannell i amcangyfrif costau byw myfyriwr enghreifftiol. Dyma declyn sy’n amcangyfrif cyfartaledd y costau, ond bydd hyn yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr.

Mae’r gyfrifiannell yn amcangyfrif y byddai myfyriwr israddedig sy’n byw mewn ystafell en-suite yn neuadd breswyl De Talybont yn gwario £5,260.11 y flwyddyn ar rent, gan gynnwys biliau.

Bydd cyfanswm costau byw eraill tua £3,963.44 (gan gynnwys bwyd, golch, teithio a thrwydded deledu).

Felly’r cyfanswm amcangyfrifol yw £9,223.44 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022-23.

Y grant mwyaf y gall myfyriwr israddedig llawn amser geisio amdano gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yw £8,100, ac mae hynny ar gyfer myfyriwr o gartref teulu ar incwm isel (yn enill £18,370 neu'n llai y flwyddyn).

Mae hyn yn golygu, yn ôl yr amcangyfrif, y bydd yn rhaid i fyfyriwr o deulu ar incwm isel ddod o hyd i £1,123.44 arall yn ystod y flwyddyn.

Mewn ymateb i bryderon y myfyrwyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn eu galluogi i  “ehangu’r cymorth ychwanegol rydyn ni wedi’i sefydlu drwy’r gronfa tan ddiwedd Mawrth 2023, gan sicrhau bod cymorth brys ar gael i’r rhai sydd ei angen at gostau byw y mae’n rhaid eu talu ar unwaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.