Teyrngedau arweinwyr o bedwar ban byd i'r Frenhines Elizabeth II

08/09/2022
Cymanwlad.png

Mae teyrngedau o bedwar ban byd wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 96 oed. 

Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol fod ei Mawrhydi wedi marw'n dawel brynhawn dydd Iau ac fe fydd y Brenin a'r teulu agos yn teithio i Lundain ddydd Gwener.

Dywedodd Llywydd yr Undeb Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, mai'r Frenhines "oedd un o'r personoliaethau yr oedd pobl yn ei pharchu fwyaf ar draws y byd."

Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, bod "Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi personoli undod a pharhad Prydain am dros 70 o flynyddoedd. Dwi'n ei chofio fel ffrind i Ffrainc, brenhines glen sydd wedi gadael gwaddol ar ei gwlad a'i chanrif."

Dywedodd yr Arlywydd Biden bod y Frenhines yn "fwy na brenhines" ac ei bod hi wedi "diffinio cyfnod."

Fe wnaeth prif weinidog yr Eidal, Mario Draghi, gyfeirio at y Frenhines fel "prif gymeriad hanes rhyngwladol y 70 mlynedd diwethaf, a wnaeth gynrychioli Prydain a'r Gymanwlad gyda balans, doethineb a pharch at sefydliadau a democratiaeth" gyda phrif weinidog Sbaen, Pedro Sánchez, yn ei henwi fel "ffigwr o arwyddocad rhyngwladol, sydd wedi bod yn dyst ac yn awdur i hanes Prydeinig ac Ewropeaidd." 

Fe wnaeth prif weinidog Gwlad Belg ei disgrifio fel "symbol o sefydlogrwydd ac urddas ar gyfer pobl Prydain."

Ychwanegodd prif weinidog Canada, Justin Trudeau, y bydd "pobl Canada yn cofio ac yn trysori trugaredd, cynhesrwydd a doethineb Ei Mawrhydi am byth. Mae ein meddyliau gyda'r Teulu Brenhinol ar yr adeg anoddaf hwn."

Fe wnaeth Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, yrru ei gydymdeimladau "ar ran pobl Wcráin i'r Teulu Brenhinol, y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad yn sgil y golled anadferadwy hon."

Dywedodd prif weinidog India, Narendra Modi, y bydd y Frenhines yn cael "ei chofio fel un o hoelion wyth ein hamseroedd ni. Fe wnaeth hi gynnig arweinyddiaeth i'w gwlad a'i phobl. Roedd hi'n personoli urddas mewn bywyd cyhoeddus."

Ychwanegodd prif weinidog Awstralia, Anthony Albanese, bod yna "gysur i'w ganfod yng ngeiriau Ei Mawrhydi "Galar ydi'r pris yr ydym ni'n ei dalu am gariad."

Rhagor i ddilyn.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.