Arestio dyn ar amheuaeth o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant yn Aberystwyth
08/09/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio dyn 36 oed ar amheuaeth o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant yn Aberystwyth.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ar Heol Loveden am tua 19:20 nos Fercher yn dilyn adroddiadau o sŵn ffrwydradau uchel.
Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr o'r Weinidogaeth Amddiffyn, mae'r heddlu bellach wedi cau'r ardal i'r cyhoedd a symud pobl o dai cyfagos.
Fe fydd Canolfan Hamdden Plas Crug ar agor i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad.
Mae'r dyn 36 oed yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.