Rubin Colwill: Byddai chwarae yng Nghwpan y Byd 'yn freuddwyd yn dod yn wir'

10/09/2022

Rubin Colwill: Byddai chwarae yng Nghwpan y Byd 'yn freuddwyd yn dod yn wir'

Mae Rubin Colwill wedi disgrifio'r posibilrwydd o chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd fel "breuddwyd yn dod yn wir." 

Dywedodd yr ymosodwr wrth Newyddion S4C y byddai gwisgo'r crys coch yn Qatar ym mis Tachwedd yn gyfle i wireddu breuddwyd a bod y balchder hynny yn ymestyn i'w deulu hefyd.

"Bydd e'n rhywbeth spesial spesial iawn i fi a teulu fi. Pwy bydd ddim eisiau chwarae i Gymru yng Nghwpan y Byd? Ma' fe'n rhywbeth enfawr i fi a bydd e'n freuddwyd yn dod yn wir."

Ond dyw Colwill ddim am roi'r drol o flaen y ceffyl ar hyn o bryd. Mae deufis ar ôl cyn Cwpan y Byd yn Qatar, ac mae'r chwaraewr o Gastell-nedd yn canolbwyntio ar greu argraff ar hyfforddwr Cymru, Rob Page, cyn hynny.

"Fi'n gobeithio bod fi'n gallu creu argraff da ar y gaffer a gobeithio bod fi'n gallu stake my claim a cael set ar yr awyren i Qatar. Fi yn ychydig yn nerfus os i fi mynd i gael fy newis neu na ond fi jyst gorfod neud be fi'n gallu i Gaerdydd a gobeithio bod fi'n gallu mynd."

Teimlo fel cefnogwr

Er ei fod wedi chwarae chwe gwaith dros ei wlad a sgorio'i gôl gyntaf yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym mis Mawrth, mae Colwill yn dal i deimlo fel cefnogwr Cymru.

"Ti byth yn stopio bod yn cefnogwr Cymru rili, a hyd yn oed pan fi ar y fainc fi'n anghofio bod fi ar y fainc. Fi'n credu bod fi yn y stands yn gweiddi dros Gymru. Ond ma fe'n grêt a bydden i byth ishe neud unrhyw beth arall 'na chwarae i Gymru."

Prif ffocws Colwill ar y funud yw perfformio i'w glwb Caerdydd. Nid yw’r Adar Gleision ddim wedi cael dechrau da i'r tymor. Dim ond dwy gem mae'r clwb wedi ennill hyd yma ac maen nhw yng ngwaelodion y gynghrair. 

Ond mae Colwill yn hyderus bod y tîm yn chwarae'n dda ac mai dim ond mater o amser fydd hi tan y bydd y canlyniadau’n newid. "Yn y short term ma' rhaid i ni dechre' transfformo results rili i wins. Ni'n chwarae'n rili da ond ni jyst ddim wedi cael y gôl 'na weithie'.

"Fel tîm ni'n mynd yn y ffordd gywir. Ni'n chwarae pêl-droed da. Ma' fe'n progressive passing style a fi'n lico chwarae yn tîm felna a ma fe'n matter of time fi'n credu tan i bopeth clico. Wedyn bydden ni nid yn unig yn chwarae'n dda ond hefyd cael y results."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.