Newyddion S4C

Pêl-droed merched Cymru: BBC Cymru'n sicrhau hawliau tan 2027

06/09/2022
merched Cymru

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau hawliau pêl-droed menywod Cymru tan 2027.

Mewn partneriaeth ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, bydd y pum mlynedd nesaf yn cynnwys y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA yn ogystal â Phencampwriaeth Ewrop a'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. 

Daw hyn cyn noson dyngedfennol i dîm Gemma Grainger wrth iddyn nhw wynebu Slofenia o flaen y gynulleidfa fwyaf erioed, gyda phwynt yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd. 

​​​​​​Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, bod "ein hymrwymiad i adlewyrchu chwaraeon merched yn ddiwyro ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant ein harlwy o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd."

Ychwanegodd capten Cymru, Sophie Ingle, ei bod hi "wedi bod yn anhygoel gweld yr effaith y mae sylw’r cyfryngau wedi’i chael ac yn parhau i’w chael ar ein gêm. Heno, bydd y dorf fwyaf erioed yn bresennol, a diolch i BBC Cymru, bydd llawer mwy yn gwylio gartref hefyd!

"Mae cefnogaeth Y Wal Goch yn sicr yn ein sbarduno ni."

Daw hyn hefyd wedi i BBC sicrhau cytundeb ar wahân er mwyn sicrhau'r hawliau radio ar gyfer pob gêm ryngwladol dynion a menywod  Cymru am y pedair blynedd nesaf.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.