Newyddion S4C

Cyflwyno deffibrilwyr mewn gorsafoedd trenau yng Nghymru

ITV Cymru 03/09/2022
Deffibrilwyr

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno rhagor o ddeffibrilwyr mewn gorsafoedd trenau led led Cymru.

Y nod ydy cael 200 o ddeffibrilwyr mewn gorsafoedd yng Nghymru.

Mae’r dyfeisiau, sy’n gallu achub bywydau, yn rhoi sioc drydanol i’r galon ar ôl iddi stopio curo, gan amlaf yn dilyn ataliad ar y galon.

Yn ôl Sefydliad y Galon yng Nghymru, mae tua 2,800 o ataliadau ar y galon tu allan i’r ysbyty yn digwydd yng Nghymru yn flynyddol, ond dim ond un mewn 20 o bobl sy’n goroesi.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.