
Cael gwared ar unig raglen gelf Radio Cymru'n 'anealladwy o hurt'

Cael gwared ar unig raglen gelf Radio Cymru'n 'anealladwy o hurt'
Mae penderfyniad BBC Radio Cymru i gael gwared ar unig raglen benodol yr orsaf i'r celfyddydau yn "anealladwy o hurt" - yn ôl cyfarwyddwr theatr sydd a dros 40 mlynedd o brofiad.
Bydd rhaglen 'Stiwdio' yn dod i ben wrth i amserlen newydd gael ei chyflwyno fis nesaf.
Mae BBC Cymru'n dweud eu bod nhw'n "gwbwl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i'r celfyddydau yng Nghymru."
Eto i gyd, roedd cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner, yn gwbwl ddiflewyn ar dafod wrth roi'i feirniadaeth i raglen Newyddion S4C.
"Mae'r celfyddydau o bob math yn creu ymateb ac yn ennyn dadl weithiau, neu sgwrs, ac mae'n bwysig bod y celfyddydau a'r bobol sy'n creu'r celfyddydau yn cael eu trafod, a bod y gwaith yn cael ei drafod," meddai.
"O glywed bod Radio Cymru'n bwriadu torri'r unig raglen Gymraeg sy'n trafod y celfyddydau'n benodol yn benderfyniad trist iawn dwi'n credu ac yn fy nhyb i yn benderfyniad anealladwy o hurt."

Un o ddarlledwyr mwyaf profiadol Radio Cymru, Nia Roberts, ydy cyflwynydd Stiwdio, ac mae'n gwbwl amlwg nad ydy hi'n hapus a'r penderfyniad chwaith.
Ar ei chyfrif Twitter dywedodd ei bod yn "synnu at BBC Cymru'n cael gwared ar yr unig raglen gelfyddydol Gymraeg."
Ychwanegodd ei bod wedi "siomi bod 30 mlynedd o wasanaeth i BBC Radio Cymru'n dod i ben efo ol-nodyn tila" gan gyfeirio at y cyhoeddiad am yr amserlen newydd gyda'r hwyr.
Fe ddywedodd BBC Cymru na fyddai'n bosib cynnig cyfweliad i Newyddion S4C ond mi ddywedson nhw mewn datganiad fod "BBC Radio Cymru yn gyfan gwbwl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i'r celfyddydau yng Nghymru.
"Mae’n gwneud hyn ar draws ystod o raglenni, gan gynnwys oriau lawer o ddarlledu bob wythnos – o raglenni fel Aled Hughes, Bore Cothi i Dei Tomos a Dros Ginio – i enwi ond rhai o raglenni Radio Cymru sy’n rhoi llwyfan i’r celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ein bwriad yn y cyfnod nesaf yw ehangu’r ddarpriaeth gelfyddydol a chaiff y cynlluniau hynny eu cyhoeddi maes o law.”
Un arall sy'n anfodlon a'r bwriad i ddod a rhaglen Stiwdio i ben er hynny ydy Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws, Betsan Llwyd.
"Pan glywson ni roedd hi'n siomedigaeth fawr i ni... dipyn o sioc. Mae'r rhaglen wedi bod yn gonglfaen mewn ffordd, yn rhan o'n busnes ni, felly (dan ni)'n siomedig iawn.

"Mae di bod yn arf marchnata gwych i ni... mae na lot fawr o bobol yn gwrando ar raglen Stiwdio ac wedyn yn prynu tocynnau yn sgil clywed am yr arlwy sydd yn digwydd."
Ychwanegodd ei bod yn meddwl y byddai carfannau gwahanol o'r sector gyfan yn llunio llythyrau ar y cyd gan alw ar BBC Radio Cymru i warchod y ddarpariaeth ar gyfer y celfyddydau.