Reslwyr WWE yn dysgu Cymraeg cyn digwyddiad mawr yng Nghaerdydd

Reslwyr WWE yn dysgu Cymraeg cyn digwyddiad mawr yng Nghaerdydd
Wrth i Gaerdydd baratoi i gynnal y digwyddiad reslo mwyaf yn y DU ers 30 mlynedd, mae rhai o sêr reslo WWE wedi bod yn derbyn gwersi Cymraeg gan un o gantorion blaenllaw Cymru.
Cyn gornest fawr 'Clash in the Castle' nos Sadwrn, mae Tara Bethan wedi'i phenodi fel llysgennad Cymru ar gyfer yr hyrwyddwyr WWE.
Mae gan Tara gysylltiad agos gyda reslo trwy ei thad Orig Williams, oedd yn un o reslwyr enwocaf Cymru pan roedd yn reslo o dan yr enw 'El Bandito.'
Fel rhan o'i gwaith gyda WWE, mae Tara wedi sicrhau bod y reslwyr yn ymwybodol o ddiwylliant a iaith Cymru.
"Be sy'n syndod i fi yw pan ti'n gadael Cymru yw faint o bobl sydd ddim yn gwybod bod gennym ni iaith ein hunain.
"Felly mae di bod yn gymaint o fraint i gael addysgu... dwi'n cael dweud i'r bobl yma 'Cymry da ni, a ni gyda iaith ein hunain.'
"Mae'n ddiddorol pa mor dda maen nhw wedi bod yn siarad Cymraeg," ychwanegodd.
Wedi i'w thad farw yn 2009, dywedodd Tara bod y cyfle i weithio gyda WWE wedi bod yn deimlad arbennig.
"I fi mae reslo jyst yn rhywbeth arferol," meddai.
"Ond amlwg y cysylltiad rŵan wrth weithio gyda'r WWE penwythnos ma, nes i golli'n nhad 12 mlynedd yn ôl.
"A dwi jyst yn meddwl os byse fo yma yn gweld hyn, byse'n braf."